Y cam mwyaf effeithiol y gallwn ei gymryd i helpu i gadw ein hunain yn iach yw mabwysiadu ffordd iach o fyw. Mae’r adran hon o’r wefan yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth a chyngor y gallwch eu defnyddio i fabwysiadu agwedd iachach tuag at eich bywyd, neu annog y rhai rydych yn gofalu amdanynt i wneud dewisiadau iachach.
Mae llawer o fanteision i fyw bywyd iachach. Rydym yn gwybod bod bwyta’n dda, rhoi’r gorau i ysmygu, cadw’n egnïol ac yfed o fewn y canllawiau a argymhellir i gyd yn cyfrannu at ein hiechyd a’n llesiant cyffredinol, ac yn lleihau’r risg o lawer o gyflyrau iechyd.
Gall gwneud newidiadau bach graddol yn eich bywyd, fel cerdded mwy neu yfed llai o alcohol, wneud gwahaniaeth mawr dros amser. Cliciwch ar y dolenni isod i gael amrywiaeth o wybodaeth a chyngor y gallwch eu defnyddio i ofalu amdanoch chi’ch hun a’r rhai o’ch cwmpas.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.