Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Iechyd y Perfedd

Gwybodaeth am sut i ymdopi â chyflyrau cyffredin syn effeithio ar y perfedd a chadwr perfedd yn iach 

Mae symptomau’r perfedd fel rhwymedd, dolur rhydd, llosg cylla / dŵr poeth a stumog wedi chwyddo yn gyffredin iawn. Fel arfer, rydych chi’n gallu eu trin drwy newid ffordd o fyw neu gymryd moddion gan y fferyllydd lleol. 

Dyw’r symptomau hyn ddim yn beryglus fel arfer ond os nad ydyn nhw’n diflannu ar ôl ychydig wythnosau, yn enwedig os ydych chi dros 50 oed, os ydych chi’n gwaedu o’r pen-ôl, yn cael anhawster llyncu neu’n colli pwysau heb geisio, cysylltwch â’ch meddyg teulu ar unwaith rhag ofn bod hyn yn arwydd o rywbeth mwy difrifol. 

Os oes newid yn arferion eich coluddyn, neu os ydych chi’n meddwl bod gennych syndrom coluddyn llidus (IBS), gofynnwch i’ch meddyg teulu am brawf clefyd Coeliag. Mae clefyd Coeliag yn gyflwr cyffredin sy’n cael ei achosi pan fydd y system imiwnedd yn ymateb i brotein o’r enw glwten. 

Mae’n bwysig iawn peidio gwneud unrhyw newidiadau i’ch deiet cyn i chi gael prawf clefyd Coeliag, rhag i hynny effeithio ar y canlyniad. 

 Mae’r fideos byr isod yn rhoi gwybodaeth am newidiadau deiet a ffordd o fyw er mwyn helpu i wella iechyd y perfedd, IBS a symptomau perfedd cyffredin: 

Beth mae Caerdydd ar Fro yn ei gynnig? 

Os ydych chi wedi cael diagnosis o gyflwr sy’n effeithio ar eich perfedd fel clefyd Crohn, annigonolrwydd pancreatig neu glefyd coeliag ac angen cyngor deietegol, gofynnwch i’ch ymgynghorydd neu feddyg teulu eich cyfeirio at ddeietegydd. 

Yn anffodus, ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gallu cynnig y deiet FODMAP isel ar gyfer IBS ond gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran “dolenni ac adnoddau defnyddiol”. 

Os ydych chi’n teimlo’n bryderus, wedi’ch llethu neu’n cael trafferth ymdopi, cysylltwch â’ch meddyg teulu sy’n gallu eich cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol addas. 

Manylion cyswllt 

Ysbyty Athrofaol Cymru 
Ffôn: 029 2074 4294
E-bost: dietetic.admin.uhw@wales.nhs.uk

Ysbyty Athrofaol Llandochau
Gwasanaethau Deieteg yn Ysbytyr Barri ac Ysbyty Rookwood 
Ffôn: 029 2071 5281 
E-bost: Dietetics.Llandough@wales.nhs.uk

Gwasanaeth Deieteg a Phaediatrig Cymunedol i Oedolion, sydd yng Nghanolfan Iechyd Glan yr Afon 
Ffôn: 029 2090 7681
E-bost: dietitians.cav@wales.nhs.uk

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content