Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

COVID-19 a Cholli Blas neu Arogl

Mae COVID-19 yn un o nifer o gyflyrau sy’n gallu arwain at newidiadau blasu ac arogli. Yn aml iawn, mae hyn yn digwydd oherwydd llid yn y strwythurau sy’n gysylltiedig ag arogli. Mae hefyd yn gallu digwydd oherwydd bod y firws yn newid y ffordd mae’r negeseuon am arogleuon yn cael eu prosesu gan yr ymennydd. Pan fydd synnwyr arogl rhywun yn diflannu, neu’n newid, yn aml iawn byddant yn teimlo ei fod yn effeithio ar eu synnwyr blasu hefyd. Y rheswm am hyn yw fod ein synnwyr blasu yn dibynnu ar ein synnwyr arogli. 

Weithiau ar ôl firws, bydd y synhwyrau blasu ac arogli yn dychwelyd yn ddigymell wrth i’r corff wella. Bydd hyn yn digwydd fel arfer yn ystod y misoedd cyntaf ar ôl bod yn sâl. Gall adferiad arafach ddigwydd o hyd dros amser. 

Mae colli blas ac arogl yn gallu effeithio ar ansawdd bywyd unigolyn. Mae mwynhau bwyd a diod, barnu hylendid personol neu synhwyro arwyddion peryglus fel mwg, nwy neu fod bwyd/diod wedi mynd yn ddrwg yn gallu bod yn anodd. 

Dyw ymchwil ddim wedi canfod un feddyginiaeth benodol sy’n gymorth i adfer blas ac arogl ac mewn gwirionedd, mae rhai meddyginiaethau yn gallu achosi mwy o niwed i’r synhwyrau hyn. Er nad yw meddyginiaethau yn gallu gwella hyn, mae tystiolaeth glinigol sy’n cefnogi’r broses Ailhyfforddi Arogl (Hyfforddiant Arogleuol). Mae’r hyfforddiant yma yn dilyn proses sylfaenol y gall unigolyn ei gwneud gartref i ddysgu’r ymennydd i arogli unwaith eto. Efallai na fydd hyfforddiant arogl yn dod â’ch synnwyr arogli yn ôl yn llwyr ond mae’n gallu ei wella. 

Ailhyfforddi arogl  arogl

Mae ailhyfforddi’r synnwyr arogli yn helpu’r llwybrau arogli i wella. 

Gallwch chi weld yr hyfforddiant ar-lein drwy Fifthsense neu Abscent ac mae’n cynnwys dogfennau defnyddiol y gallwch eu lawrlwytho i’ch cynorthwyo. 

  • Mae’r hyfforddiant yn cynnwys arogli eitemau o bedwar categori arogl gwahanol: blodeuog, ffrwythaidd, sbeislyd a resinaidd, fel rhosyn, ewcalyptws, lemwn neu glof. 
  • Dewiswch eich arogl cyntaf a’i arogli am tua 15 eiliad, gan geisio cofio sut yr oedd yn arogli o’r blaen. 
  • Gorffwyswch am 10 eiliad. 
  • Symudwch i’r un nesaf, gan ei arogli am tua 15 eiliad ac yna gorffwys am 10 eiliad. 
  • Ailadroddwch nes eich bod wedi arogli’r pedwar. 
  • Ailadroddwch hyn i gyd rhyw dro arall yn ystod y dydd – yn y bore a’r nos yn ddelfrydol. 

Mae’n well dewis aroglau sy’n cyd-fynd â’r pedwar categori arogl, ond gallwch chi ddewis unrhyw rai sy’n hawdd cael gafael arnyn nhw, neu rai rydych yn eu mwynhau neu rai y mae gennych gysylltiad â nhw. Enghreifftiau: croen lemwn/oren, cnau, clof, mintys, ewcalyptws, coffi wedi’i falu, cnau coco, perlysiau ffres neu sych. 

Mae’n bwysig cofnodi eich cynnydd mewn cofnod dyddiadur. 

Mae ymchwil yn awgrymu bod pobl sy’n cymryd rhan yn y broses ailhyfforddi arogl yn gwneud yn well pan fyddan nhw’n amrywio’r pedwar arogl y maen nhw’n eu defnyddio bob mis ond yn aros o fewn y pedwar categori o arogleuon. 

Gall unigolion brofi newidiadau i flas ac arogl fel sgil-effaith meddyginiaeth hirdymor neu fyrdymor. Yn arbennig: gwrthfiotigau (yn ddiweddar / yn cyd-daro â newidiadau mewn blas ac arogl), meddyginiaethau gwrth-iselder, gwrth-seicotig, gwrth-orbwysedd / cardiaidd a thabledi gwrthlidiol (steroidau). Os ydych chi’n cymryd unrhyw un o’r meddyginiaethau hyn mae angen i chi ystyried a yw’r rhain yn achosi eich newidiadau mewn blas ac arogl. 

Symptomau eraill

Os byddwch chin profi newidiadau arogl ynghyd â symptomau eraill sydd wediu nodi isod, efallai y bydd angen ymchwilio ymhellach iddyn nhw. 

SymptomauArwyddion colli arogl nodweddiadol 
Gorlenwad trwynol a / neu ddraenio Arogl syn cynyddu a gostwng 
Gorlenwad trwynol a / neu waedu Colli arogl yn raddol 
Cur pen neu newidiadau niwroleg / newidiadau ich golwg Colli arogl yn raddol 
Problemau’r cofColli arogl yn raddol
Cryndodau, bradykinesia (symud yn araf), anystwythder cyhyrol Colli arogl yn raddol

 

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content