Gwahanol fathau o Covid-19
Gall pobl dioddef Covid-19 am wahanol amser:
Mae’r termau isod yn ddisgrifio a ddiffinio effeithiau COVID-19 ar wahanol adegau or haint. Caiff y diffiniadau hyn eu hadolygu’n barhaus wrth i dystiolaeth ddod i’r amlwg ac rydym yn dechrau deall mwy am effeithiau hirdymor COVID-19.
Arwyddion a symptomau COVID-19 hyd at 4 wythnos
Mae COVID-19 yn cyflwyno amrywiaeth o symptomau o ddifrifoldeb amrywiol.
Mi fydd rhai bobl sydd wedi’u heintio ddim yn datblygu symtomau o gwbl.
Symptomau mwy cyffredin yw:
- Twymyn
- Peswch newydd a pharhaus
- Diffyg anadl
- Blinder
- Colli archwaeth
- Anosmia (colli arogl) ac ageusia (colli blas)
Symptomau y gallech eu dioddef gyda COVID, ond gallent hefyd fod yn arwydd o faterion iechyd eraill:
- Diffyg anadl
- Blinder
- Colli archwaeth
- Poen yn y cyhyrau
- Llwnc tost
- Cur pen
- Tagfeydd trwyn
- Dolur rhydd
- Cyfog a chwydu
Gall rhai pobl, yn enwedig pobl hŷn neu pobl ag imiwnedd gwan, brofi symptomau anghyffredin fel deliriwm a gostwng mewn lefel symudedd, heb dwymyn.
Arwyddion a symptomau COVID-19 o 4 wythnos hyd at 12 wythnos.
Gall symptomau amrywio,ond yn gyffredin mae’r broblemau yn gynnwys problemau seiciatrig, poen cyffredinol, blinder, twymyn parhaus, ac gall y haint effeithio ar y systemau canlynol:
- Cardiofasgwlaidd
- Anadlol
- Gastroberfeddol (Stumog)
- Niwrolegol
- Cyhyrysgerbydol (esgyrn, cymalau a chyhyrau)
- Metabolig
- Arennol (Arennau)
- Dermatolegol (Croen)
- Otolaryngolegol (clust, trwyn a gwddf)
- Systemau (Gwaed) haematolegol ac ymreonomegol (systemau imiwnedd)
Yn ogystal â phroblemau seiciatrig, poen cyffredinol, blinder a thwymyn parhaus.
Mae arwyddion a symptomau sy’n datblygu yn ystod neu ar ôl haint sy’n gyson â COVID-19, yn parhau am fwy na 12 wythnos ac nid ydynt yn cael eu hesbonio gan ddiagnosis amgen.
Mae pobl fel arfer yn profi symptomau lluosog ar un adeg, sy’n gallu amrywio a newid dros amser ac sy’n gallu effeithio ar unrhyw system yn y corff.
I gael rhagor o gyngor sy’n ymwneud â COVID Hir cyfeiriwch at y gwybodaeth ganlynol.