Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Newidiadau o ran Cyfathrebu a Llyncu ar ôl COVID-19

Ers ymddangosiad COVID-19, mae unigolion sydd wedi cael diagnosis o’r feirws, a gweithwyr proffesiynol sy’n eu trin, wedi adrodd am newidiadau yn lleferydd, cyfathrebu a llyncu unigolion.

Mae rhai o’r newidiadau a gafodd eu cofnodi’n cynnwys:

  • Newidiadau i sŵn eich llais. Gall y llais swnio’n gryg neu’n grawclyd.
  • Newidiadau yn eich sgiliau meddwl sy’n cael eu disgrifio gan lawer fel ‘niwl yr ymennydd’. Mae’n ymddangos bod hyn yn effeithio ar ba mor gyflym y gallwch feddwl am wybodaeth neu ganolbwyntio ar weithgaredd.
  • Gall nifer fach iawn o unigolion brofi newidiadau yn eu gallu llyncu. Mae hyn yn tueddu i gael ei gyfyngu i’r rhai sydd wedi cael eu derbyn i’r ysbyty ac sydd wedi cael cymorth i anadlu neu gymorth i fwyta ac yfed gan diwb. Mae’n bwysig bod hyn yn cael ei reoli’n effeithiol gan y gall anawsterau llyncu effeithio’n sylweddol ar eich iechyd corfforol.
  • Newidiadau mewn iechyd meddwl, yn enwedig newidiadau mewn hwyliau a gorbryder oherwydd straen, pryder, trefn ddyddiol wedi’i newid ac arwahanu cymdeithasol. Gall hyn effeithio ar sut rydych chi’n rhyngweithio â phobl o’ch cwmpas.

Mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod y newidiadau hyn yn amrywio’n sylweddol gan ddibynnu ar sut mae’r feirws wedi effeithio ar yr unigolyn. Nid yw’r rhan fwyaf o unigolion sy’n cael diagnosis o COVID-19 wedi angen mynd i’r ysbyty neu wedi angen unrhyw gymorth meddygol arbenigol.

Ar gyfer y nifer fach o unigolion sydd wedi bod angen mynd i’r ysbyty neu sydd wedi cael eu derbyn i’r Uned Gofal Dwys, mae’n debygol y byddan nhw’n profi anawsterau hirdymor. Bydd yr unigolion hyn yn cael eu cyfeirio at wasanaethau adsefydlu priodol ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r ysbyty.

Newidiadau i’r llais ar ôl COVID-19

Mae’r cyngor hwn yn cael ei lunio gan dîm o Therapyddion Iaith a Lleferydd arbenigol llais y DU o Rwydwaith Rhagoriaeth Glinigol Llais y DU.

O ganlyniad i’r haint COVID-19, efallai y byddwch yn profi rhai newidiadau dros dro i sŵn eich llais, ac i’ch lefelau cysur ac ymdrech wrth ei ddefnyddio. Mae’r newidiadau hyn yn debyg i’r newidiadau y byddech yn disgwyl eu profi gydag annwyd neu ffliw, ond disgwylir iddyn nhw fod yn fwy dwys a pharhaol. Rydym yn rhagweld y bydd y problemau llais hyn yn cymryd 6 – 8 wythnos i’w datrys yn raddol. Bydd y cyngor canlynol yn helpu eich adferiad lleisiol.

Mae’r tannau llais yn eistedd yn y corn gwddf (a elwir hefyd yn Laryncs neu afal breuant) ar ben y bibell wynt.

Er mwyn cynhyrchu llais, rydym yn dod â’r cordiau lleisiol at ei gilydd ac yn chwythu aer yn ysgafn drwyddyn nhw o’r ysgyfaint isod, sy’n achosi i’w pilennau sensitif ddirgrynu. Y dirgryniad hwn yw sŵn y llais dynol.

Pan fydd gennych COVID-19 rydych yn debygol o brofi pyliau hir ac estynedig o beswch. Mae peswch yn dod â’r cordiau lleisiol at ei gilydd yn rymus er mwyn caniatáu i aer gael ei ollwng yn gryf, gan helpu i glirio unrhyw fwcws o’ch ysgyfaint a’ch gwddf. Gall y lefel hon o beswch achosi i’r cordiau lleisiol fynd yn chwyddedig ac yn llidiog.

Pan fydd cordiau lleisiol yn chwyddedig ac yn llidiog, maen nhw’n mynd yn stiff ac yn llai hyblyg. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn gallu dirgrynu’n rhydd, felly mae sŵn y llais yn newid, yn aml yn mynd yn fwy garw ac yn ddyfnach, neu o bosibl ni fydd yn fwy na sibrwd. Gall deimlo’n anghyfforddus a gwaith caled i siarad pan fydd eich cordiau lleisiol fel hyn.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi’ch hydradu’n dda. Yfwch 1½ – 2 litr (4 – 5 peint) o hylif nad yw’n cynnwys caffein neu alcohol y dydd (oni bai bod Meddyg yn cynghori fel arall).
  • Rhowch gynnig ar stemio ysgafn gyda dŵr poeth (dim byd wedi’i ychwanegu at y dŵr). Anadlwch i mewn ac allan yn ysgafn drwy eich trwyn neu’ch ceg. Ni ddylai’r stêm fod mor boeth fel ei fod yn gwneud i chi besychu.
  • Pan fydd y feirws ar ei anterth, mae pesychu yn debygol o fod yn ddwys a does dim posibl ei osgoi. Fodd bynnag, unwaith y bydd y cam hwn o’r salwch yn mynd heibio, ceisiwch osgoi clirio gwddf yn barhaus, yn fwriadol ac, os na allwch osgoi gwneud hynny, gwnewch hynny mor ysgafn â phosibl. Gall cymryd sipiau bach o ddŵr oer helpu i leddfu’r awydd i beswch.
  • Gall gwm cnoi neu losin sugno helpu i greu llif poer, sy’n iro’r gwddf ac sy’n gallu helpu i leihau clirio’r gwddf.
  • Dylech osgoi losennau a hylifau golchi ceg meddyginiaethol, gan y gall y rhain gynnwys cynhwysion sy’n amharu ar leinin mwcosaidd y gwddf.
  • Nid oes angen i chi orffwys y llais yn llwyr, h.y. bod yn gwbl ddistaw. Hyd yn oed yng nghamau cynnar y feirws, pan fydd y llais ar ei waethaf, mae defnyddio’r cordiau lleisiol i ddweud ychydig o eiriau byr bob hyn a hyn yn eu cadw’n symud, ac mae hyn yn bwysig.
  • Ceisiwch ddefnyddio eich llais arferol bob amser. Peidiwch â phoeni os yw’r cyfan sy’n dod allan yw sibrwd neu grawc; ceisiwch osgoi rhoi straen ar orfodi’r llais i swnio’n uwch.
  • Peidiwch â dewis sibrwd yn fwriadol; nid yw hyn yn “gwarchod” y llais; mae’n rhoi straen ar y corn gwddf.
  • Ceisiwch osgoi ysmygu neu fepio.
  • Ceisiwch osgoi ceisio siarad dros sŵn cefndir fel cerddoriaeth, teledu, neu sŵn peiriannau ceir, gan fod hyn yn achosi i chi geisio codi’ch llais, a all fod yn niweidiol.
  • Os nad yw eich llais yn fwy na sibrwd peidiwch â ffonio, cymryd rhan mewn sgwrsio ar-lein, na sgyrsiau fideo. Unwaith y bydd y llais yn dechrau gwella, ceisiwch osgoi sgyrsiau estynedig (mwy na 5 munud) dros y ffôn, ar sgwrs ar-lein, neu fideo. Ceisiwch ddefnyddio opsiynau tecstio yn lle hynny.
  • Efallai y byddwch yn sylwi bod eich llais yn blino’n gyflymach na’r arfer. Mae hyn i’w ddisgwyl. Cymerwch seibiant o siarad pan fyddwch yn profi blinder lleisiol; mae hyn yn rhoi amser i’r cordiau lleisiol wella.
  • Yn ogystal â llid o ganlyniad i COVID-19, gall adlif hefyd amharu ar y gwddf. Er mwyn lleihau unrhyw adlif posibl, ceisiwch osgoi bwydydd seimlyd a bwydydd a diodydd asidig iawn megis; ffrwythau a sudd sitrws, finegr a piclau, tomatos a sawsiau tomato, diodydd swigod, caffein ac alcoholig ac ati. Gall hefyd fod yn fuddiol cymryd hylif alginad (e.e. Gaviscon Advance) yn dilyn prydau bwyd a chyn gwely.
  • Hyd nes y bydd y llais wedi dychwelyd i’r arfer mae’n well osgoi gweithgareddau lleisiol “athletaidd” fel gweiddi a chanu.
  • Os nad yw eich llais wedi dychwelyd yn llwyr i normal 6 – 8 wythnos ar ôl dechrau eich symptomau firws COVID-19, cysylltwch â’r Adran Therapi Iaith a Lleferydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a/neu eich Meddyg Teulu, oherwydd efallai y bydd angen therapi llais arnoch ac atgyfeiriad at Arbenigwyr Clust, Trwyn a Gwddf (ENT).
  • Os ydych yn cael poen yn y gwddf neu anawsterau llyncu bwyd neu ddiod sy’n parhau y tu hwnt i chwe wythnos ar ôl dechrau eich symptomau COVID-19, dylech gysylltu â’ch Meddyg Teulu, oherwydd efallai y bydd angen eich cyfeirio at ENT.
  • Os bu’n rhaid i chi, yn ystod eich salwch, gael eich trin yn yr ysbyty gyda thiwb anadlu yn eich gwddf, efallai y bydd gennych broblemau gwahanol neu hirdymor gyda’ch llais neu’ch gwddf. Siaradwch â’ch Meddyg Teulu os ydych yn pryderu, oherwydd efallai y bydd angen eich cyfeirio at ENT.
  • Gall y profiad o fod yn sâl iawn ac o bosibl yn cael triniaeth yn yr ysbyty fod yn flinedig yn emosiynol, ac i rai pobl, beri gofid mawr. Mae cysylltiad agos rhwng ein hemosiynau a’n llais, felly mae’n werth bod yn ymwybodol bod gwellhâd emosiynol ac gwellhâd lleisiol yn aml yn mynd law yn llaw. Gofynnwch am gyngor gan eich Meddyg Teulu os oes angen mwy o gymorth arnoch.

Newidiadau mewn Meddwl ‘Niwl yr Ymennydd’ ar ôl COVID-19

Credir bod hyn yn cael ei achosi gan ymateb y corff i’r feirws, yn ogystal â blinder ôl-feirysol. Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol ar gael ar y dudalen we hon.

Mae’r symptomau sydd wedi’u cofnodi yn cynnwys:

  • Anghofio enwau ac anawsterau cyffredinol i ddod o hyd i eiriau.
  • Ei chael hi’n anodd dilyn neu ganolbwyntio ar sgyrsiau a gweithgareddau.
  • Mae cynllunio, trefnu a gwneud penderfyniadau yn fwy ymdrechus.
  • Mwy o bryder.
  • Blinder.

Fel arfer, bydd hyn yn gwella dros amser gan fod eich corff yn gwella o’r feirws yn gyffredinol. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn gwella, ewch i’ch Meddyg Teulu i drafod opsiynau ar gyfer cymorth pellach.

Strategaethau i gefnogi ‘Niwl yr Ymennydd’

  • Cymerwch eich amser.
  • Ceisiwch leihau’r ymyriadau o’ch cwmpas er mwyn eich galluogi i ganolbwyntio ar yr hyn rydych yn ei wneud.
  • Defnyddiwch galendr / nodiadau atgoffa i’ch helpu i drefnu eich amser.
  • Sefydlwch drefn arferol a chymerwch seibiannau rheolaidd i’ch helpu i reoli eich blinder.

Anawsterau Llyncu ar ôl COVID-19

Mewn rhai amgylchiadau ar ôl cael diagnosis o COVID-19, gall pobl gael anawsterau llyncu, yn enwedig os yw person wedi treulio amser yn yr ysbyty ac ar Uned Gofal Dwys. Os yw rhywun wedi cael anawsterau difrifol wrth anadlu yn yr ysbyty, efallai eu bod wedi cael cymorth i’w helpu i anadlu (mewndiwbio neu traceostomi). Os yw rhywun wedi bod yn sâl iawn, efallai y bydd angen tiwb arnynt hefyd i’w helpu i’w fwydo ac efallai nad ydynt wedi cael unrhyw beth i’w fwyta a’i yfed am gyfnod.

Rydym yn defnyddio llawer o wahanol gyhyrau pan fyddwn yn cnoi ac yn llyncu bwyd, ac os nad ydym wedi gwneud hyn ers tro, gall y cyhyrau fynd yn wannach, a gall llyncu fynd yn fwy o ymdrech. At hynny, ar ôl arhosiad hir yn yr ysbyty, gall pobl teimlo datgysylltiad cyffredinol, a all gael effaith negyddol ar eu gallu i lyncu.

Gall Therapyddion Iaith a Lleferydd asesu llyncu person a gallant gynnig dulliau i helpu i wneud bwyta ac yfed yn haws neu’n fwy diogel. Os ydych yn cael anawsterau llyncu (Dysffagia), gallwch ddod o hyd i gyngor a gwybodaeth bellach yma.

Newidiadau i flas ac arogl

Os ydych yn profi newidiadau i flas ac arogl yn dilyn COVID-19, gallwch ddod o hyd i ragor o gyngor a gwybodaeth yma.

Manylion cyswllt

Adran Therapi Iaith a Lleferydd Oedolion
Ysbyty Athrofaol Cymru
Ffordd Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW

Ffôn: 029 2074 3012

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content