Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Orthopedeg

Mae orthopedeg yn arbenigedd sy’n ymdrin ag esgyrn, cymalau a’r meinweoedd meddal cysylltiedig gan gynnwys ligamentau, nerfau a chyhyrau. Mae llawdriniaeth orthopedig yn digwydd oherwydd problemau yn sgil: newidiadau arthritig, anafiadau, a phroblemau orthopedig cynhwynol.

Y prif lawdriniaethau orthopedig sy’n cael eu gwneud yw:

  • Arthroscopi’r cymalau – llawdriniaeth sy’n cael ei gwneud gyda thoriadau llai yn y croen (endoriadau) i edrych ar feinwe meddal a’i drwsio.
  • Arthroplasti – Rhoi cymal newydd cyfan neu rannau o gymal, fel arfer oherwydd arthritis.
  • Llawdriniaethau cywiro – llawdriniaethau sy’n cael eu gwneud i fyrhau asgwrn, neu ei wneud yn hirach, neu er mwyn newid safle’r asgwrn. Mae hyn yn digwydd er mwyn ysgafnhau pwysau ar y cymalau.

Mae’r adran hon o’r wefan yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am gadw’n iach ac ‘aros yn iach’ cyn eich llawdriniaeth. Mae hefyd yn cynnwys cyngor ar baratoi ar gyfer eich llawdriniaeth a sut i wella’n iawn ar ôl hynny.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content