Ffisiotherapi Plant -
Gwasanaeth Niwrowyddoniaeth Pediatrig Acíwt
Mae’r ffisiotherapyddion arbenigol o fewn tîm Niwrowyddoniaeth Pediatrig Acíwt yn darparu gwasanaeth cleifion mewnol i blant yn dilyn anaf newydd i’r ymennydd neu salwch niwrofeddygol acíwt sy’n arwain at rwystrau yng ngallu’r plentyn i symud, cydbwyso neu gydlynu symudiadau.

Mae hyn yn cynnwys
- strôc
- anaf i’r pen
- ar ôl niwrolawdriniaeth
- anaf i’r asgwrn cefn
- llid yr ymennydd
- epilepsi
- Guillain Barre
- cyflyrau demyelineiddio acíwt
Pan fydd angen, rydym hefyd yn asesu a llunio rhaglenni ar gyfer cleifion mewnol sy’n fabanod gyda phryderon niwrolegol neu ddatblygiadol.
Rydym yn cydweithio’n agos â phlant a’u teuluoedd i sicrhau triniaethau penodol sy’n addas i nodau a phroblemau unigol yr unigolyn.
Triniaethau ffisiotherapi
Ein nod yw gwneud sesiynau mor hwyliog â phosibl a defnyddio gemau a theganau i annog symudiadau a gweithgarwch corfforol. Mae’r triniaethau yn cynnwys:
- Symud ac ymestyn breichiau a choesau
- Argymhellion ar gyfer ystumiau ddydd a nos
- Defnyddio offer i alluogi eistedd a sefyll yn gynnar
- Darparu mewnwadnau syml neu atgyfeirio ar gyfer orthoteg arbenigol (mewnwadnau)
- Ymarfer corff/chwarae cydbwysedd a chydsymud
- Ymarferion cryfhau a chwarae
- Ailgyflwyno sgiliau symud swyddogaethol
- Ailaddysgu cerddediad
- Hydrotherapi
- Ysgogiad Trydanol Swyddogaethol
Lle rydym yn gweithio
Yn achos plant sydd ag anghenion adsefydlu hirach, rydym yn cydweithio’n agos gyda’r teulu, Therapi Galwedigaethol a chydweithwyr Diagnosis a Therapi Meddygol eraill i geisio hwyluso gwyliau penwythnos, er mwyn caniatáu amser teuluol gyda’i gilydd a gosod nodau therapi newydd i weithio tuag atynt.
Rydym yn cynnal sesiynau ar y cyd gyda chydweithwyr mewn arbenigeddau ffisiotherapi pediatrig eraill, yn ogystal â Therapyddion Iaith a Lleferydd a Therapyddion Galwedigaethol. Mae gennym rôl allweddol o fewn y Tîm Niwroadsefydlu ac rydym yn cysylltu’n agos â therapyddion cymunedol i sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau adref yn ddiogel neu i ysbytai lleol.