Hysbysiad Preifatrwydd

Gwasanaeth Rheoli Pwysau BIP Caerdydd a’r Fro mewn partneriaeth ag Oviva

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (fel rheolwyr data) yn prosesu eich data personol, yn benodol o ran y gwasanaeth rheoli pwysau a ddarperir mewn partneriaeth ag Oviva.

Sut a pham bydd eich data personol yn cael eu prosesu?

Caiff eich data personol ei brosesu i ganiatáu i’r BIP ddarparu cefnogaeth i chi trwy ei wasanaeth rheoli pwysau haen 2, a gyflwynir mewn partneriaeth ag Oviva. Os dewiswch gofrestru yng ngwasanaeth rheoli pwysau rhithwir Oviva, Oviva UK Ltd fydd y rheolydd data cyfrifol am yr wybodaeth a gyflwynwch drwy’r ffurflen hunan-gyfeirio. Mae gwybodaeth am sut y bydd Oviva yn prosesu eich data ar gael ar y ffurflen atgyfeirio ei hun.

Bydd Oviva hefyd yn darparu gwybodaeth yn uniongyrchol i Wasanaeth Rheoli Pwysau Arbenigol Oedolion Caerdydd a’r Fro yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Ar ôl cwblhau eich gofal gydag Oviva, bydd yr Ysbyty Athrofaol yn derbyn adroddiad diwedd gofal a fydd yn cael ei gadw’n ddiogel fel rhan o’ch cofnod iechyd.
  • Os bydd Oviva yn teimlo bod angen rhannu gwybodaeth i ddiogelu eich iechyd, bydd hyn hefyd yn cael ei ddarparu i’r BIP.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data personol?

Y sail gyfreithlon y mae’r Bwrdd Iechyd yn dibynnu arno i brosesu eich data personol yw:

  • GDPR Erthygl 6 (e) – mae ei hangen arnom i gyflawni ein tasg gyhoeddus

• Gan fod amddiffyniad ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer rhai dosbarthiadau o wybodaeth o’r enw ‘data personol categori arbennig’, megis gwybodaeth iechyd, rhaid nodi sail gyfreithiol ychwanegol er mwyn prosesu’r dosbarthiadau gwybodaeth hyn, fel yr amlinellir isod:

  • GDPR Erthygl 9(h) – mae prosesu’n angenrheidiol ar gyfer darparu iechyd a gofal cymdeithasol

Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol?

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel a’i chadw yn unol â’r Cod Ymarfer Rheoli Cofnodion ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2022

Eich hawliau

Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau, yn cynnwys:

  • Eich hawl mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol.
  • Eich hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu – Dan rai amgylchiadau penodol mae gennych hawl i gyfyngu i ba raddau rydym yn prosesu eich gwybodaeth.
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau.
  • Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.

Sut i gwyno os ydych yn anhapus am sut mae eich data wedi cael ei brosesu

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r BIP yn prosesu eich data, mae modd dod o hyd iddo drwy Bolisi Preifatrwydd y BIP.

Gallwch gwyno’n uniongyrchol i Swyddog Diogelu Data Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro dros ebost: Uhb.Dpo@wales.nhs.uk.

Gallwch hefyd gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gan ddefnyddio’r manylion hyn:

Ceir rhagor o gyngor ac arweiniad gan y Comisiynydd Gwybodaeth ar y mater hwn ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content