Holiaduron Iechyd ESCAPE
Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs)
Holiaduron iechyd yw PROMs sydd wedi’u cynllunio i nodi sut rydych chi’n teimlo o’ch safbwynt chi eich hun.
Rydyn ni’n gwybod eich bod chi eisoes wedi cwblhau ambell holiadur mae’n siŵr – ni ddylai’r rhain gymryd yn hir i’w cwblhau ac maen nhw’n bwysig er mwyn i ni gael gwybod mwy am ansawdd eich bywyd mewn perthynas â’ch cyflwr. Bydd eich atebion yn cael eu defnyddio i fonitro newidiadau yn eich symptomau ac ansawdd bywyd. Mae hyn yn gallu eich helpu chi a’ch tîm clinigol i wneud penderfyniadau gwybodus am ba driniaeth sydd fwyaf addas ar gyfer eich cyflwr, eich anghenion a’ch amgylchiadau.
- Drwy gofrestru gyda “My Clinical Outcomes” (MCO) ac ateb yr holiaduron pan ofynnir i chi wneud hynny. Bydd rhai o’ch holiaduron yn cael eu hanfon fel hyn yn y dyfodol.
- HEFYD drwy gwblhau arolwg ESCAPE-pain ar gyfer y cwestiynau nad ydynt yn cael eu cynnwys yn “My Clinical Outcomes”.
Cwblhewch yr holiaduron sydd ym mhob dolen isod.
Cofrestru gyda My Clinical Outcomes
Wrth gofrestru gyda “My Clinical Outcomes”, defnyddiwch eich Enw, eich Dyddiad Geni a’ch Rhif GIG. Mae eich rhif GIG ar frig pob llythyr o’r ysbyty.
Fel rhan o’r broses gofrestru, gofynnir i chi hefyd ddewis eich cyflwr clinigol a thriniaethau cysylltiedig o’r dewisiadau, dyma nhw:
- Ysbyty/clinig: Barry Hospital, Cardiff Royal Infirmary neu University Hospital of Wales (Heath)
- Ymgynghorydd: Dewiswch “MSK Consultant”
- Arbenigedd meddygol: Dewiswch “Musculoskeletal (MSK) services”
- Maes y broblem: Dewiswch naill ai “Hip arthritis”, “Knee arthritis” neu “Back pain”
- Ydych chi’n cael triniaeth ar hyn o bryd? Dewiswch “Ydw”
- Beth yw/oedd eich prif driniaeth? Dewiswch “ESCAPE”
Ar ôl cofrestru, bydd e-bost atgoffa neu neges destun yn cael ei hanfon atoch chi pan fydd angen i chi fewngofnodi nesaf a llenwi holiadur newydd – mae hyn yn bwysig i roi gwybodaeth am eich ‘statws iechyd’ i’ch tîm clinigol. Gallwch chi weld cynnydd eich hun hefyd.
Os na allwch chi lenwi’r holiaduron, efallai y gofynnir i chi eu cwblhau yn eich apwyntiad. Cysylltwch â’r tîm os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Weithiau mae’n bosib na fydd rhai pobl yn gallu cwblhau’r holiaduron eu hunain. Gall hyn fod am nifer o resymau ond fe hoffai’r rhaglen i bob claf gael eu cynnwys ac felly mae’n rhaid i ni ymdrechu i gefnogi unrhyw un sy’n methu llenwi’r holiadur.
Os nad ydych chi’n gallu llenwi’r holiadur, ystyriwch y canlynol:
- Oes gennych chi aelod o’r teulu, ffrind, gofalwr neu gymydog sy’n gallu’ch helpu chi i lenwi’r holiadur?
- Ydych chi’n aelod o unrhyw grwpiau cymorth neu oes gennych chi fynediad at grŵp lle gallai rhywun eich helpu i lenwi’r holiadur?
Os oes rhywun yn gallu eich helpu i lenwi’r holiadur, cofiwch mai gwybodaeth amdanoch chi a’ch safbwyntiau chi y byddwch yn eu rhoi, nid rhai’r person sy’n eich helpu.
Os nad ydych chi’n gallu llenwi’r holiadur ar ôl i chi ystyried yr uchod, hoffem sicrhau na fydd hyn yn achosi oedi o ran eich apwyntiad, na chael effaith ar y gofal y byddwch chi’n ei dderbyn.
Os cewch chi unrhyw anawsterau wrth geisio dechrau holiadur “My Clinial Outcomes”, e-bostiwch Livewell.Program.Cav@wales.nhs.uk