Therapi galwedigaethol mewn Gwasanaeth Asesu Gofal yr Henoed (ECAS) a Therapi Ysbyty Dydd
Mae ein gwasanaethau yn darparu cymorth i bobl sydd mewn perygl o ddirywio yn eu hiechyd. Mae cymorth cynnar yn helpu pobl i aros yn eu cartrefi ac atal aros yn yr ysbyty. Mae’r Ysbyty Dydd ac ECAS yn wasanaethau amlddisgyblaethol sydd wedi’u lleoli yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Bydd y therapyddion galwedigaethol yn cynnal asesiadau i asesu sut a beth mae person yn gallu ei wneud, y tasgau y mae angen iddynt eu gwneud ac eisiau eu gwneud yn eu cartref. Pan fydd angen cyfnod o adsefydlu cleifion allanol, caiff ei wneud gan dîm amlddisgyblaethol. Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio gyda phobl i archwilio’r holl faterion sy’n effeithio ar eu gallu i gyflawni tasgau bob dydd angenrheidiol megis lleihau’r risg o gwympo, pryder, datblygu strategaethau cof, hylendid cwsg a rheoli blinder.
Mae tîm ECAS ac Ysbyty Dydd yn gweithio’n agos gyda gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro (VCRS) a gallant gyfeirio at eu gwasanaethau, megis Gofal a Thrwsio, a fydd yn cefnogi pobl hŷn yn y gymuned.
Prosesau cyswllt/cyfeirio
Fel arfer daw atgyfeiriadau i’r gwasanaeth trwy eich meddyg teulu, gwasanaeth damweiniau ac achosion brys neu MEAU Ysbyty Llandochau
Os ydych chi’n cael anawsterau ac yn meddwl y byddech chi’n elwa o gael asesiad gyda Therapydd Galwedigaethol, dylech chi siarad â’ch meddyg teulu neu dîm gofal yn gyntaf er mwyn cael eich cyfeirio at y gwasanaeth cywir.
Gwybodaeth Pwysig
Lleoliad arferol Ysbyty Llandochau ar hyn o bryd oherwydd Covid yw Ysbyty Dewi Sant, Heol E y Bont-faen, Caerdydd CF11 9XB (canolfan dros dro)