Bydd cydnabod y gofynion seicolegol fydd yn eich wynebu yn rhoi cyfle i chi wneud dewisiadau a all fod o fudd wrth i chi reoli eich lles seicolegol yn ystod triniaeth.
Er enghraifft, os ydych chi’n pryderu nad ydych chi’n gwybod digon am eich triniaeth, efallai y byddai’n syniad da i chi ofyn am ragor o wybodaeth am y pethau sy’n eich pryderu i’r gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanoch chi.
Ceisiwch wybodaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal
Gall paratoi’n seicolegol am driniaeth eich helpu i adnabod ffyrdd o reoli a hyrwyddo eich llesiant seicolegol yn ystod triniaeth. Fel gydag unrhyw fath o baratoi, mae’n amhosibl rhagweld cwrs y driniaeth a’r hyn a allai fod yn heriol i chi.
Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi i wella.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.