
- This event has passed.
Sesiynau ymarfer corff Good Boost yn y dwr
23/05 at 2:15 pm - 3:15 pm

Un ffordd o gadw’n heini a chael eich cymalau i symud wrth aros am lawdriniaeth yw gwneud ymarferion yn y dwr fel nofio, cerdded yn y pwll neu ddosbarthiadau ymarfer corff yn y pwll. Mae unigolion yn defnyddio tabledau sy’n gwrthsefyll dwr i’w harwain drwy raglen ymarfer corff sydd wedi’i chynllunio o gwmpas eu hanghenion. Gwneir hyn mewn sesiwn grwp gyda phobl yn gweithio drwy eu set eu hunain o ymarferion ar eu cyflymder eu hunain.