Mae’r Cwrs Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda wedi’i gyd-gynhyrchu gan aelodau’r gymuned a gweithwyr proffesiynol i gefnogi pobl i fyw’n dda wrth iddynt heneiddio.
Ni allwn atal y broses heneiddio ond mae yna bethau y gallwn eu gwneud nawr i’n helpu i heneiddio’n dda. Gallwn wneud dewisiadau sy’n gwella ein gallu i gynnal bywyd egnïol, i wneud y pethau rydyn ni’n eu mwynhau, ac i dreulio amser gyda’n hanwyliaid.
Bydd y cwrs Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda yn eich cefnogi i wneud y canlynol:
Beth mae’r cwrs Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda yn ei gynnwys?
Pa bynciau sy’n cael eu trafod?
Yn ystod pob sesiwn byddwn yn trafod pwnc gwahanol sy’n ymwneud â byw’n dda wrth i ni heneiddio:
Rydym yn byw’n hirach ac wrth i ni heneiddio, rydym yn profi newidiadau naturiol yn ein bywydau. Yn y sesiwn gyntaf hon byddwn yn cyflwyno’r cysyniad o Heneiddio’n Iach, a’r pethau yr hoffem eu gwneud, neu barhau i’w gwneud, wrth i ni heneiddio.
Mae gweithgarwch corfforol a symudiad rheolaidd yn fuddiol i ni ym mhob oed a gall newidiadau bach nawr arwain at fanteision mawr yn y dyfodol. Dysgwch fwy am sut y gall gweithgarwch corfforol helpu’r broses heneiddio a sut y gallwn ei gyflwyno’n fwy yn ein bywydau bob dydd.
Dysgwch am y pethau y gallwn eu gwneud i’n helpu i gael digon o egni i gwblhau’r gweithgareddau sy’n bwysig i ni.
Mae rhai newidiadau i’n hymennydd, fel ein cof a’n sgiliau meddwl, yn rhan arferol o heneiddio. Dysgwch am y pethau y gallwn eu gwneud i wella iechyd ein hymennydd a lleihau ein risg o ddatblygu cyflyrau ymennydd fel dementia.
Mae bwyta deiet iach a chytbwys yn chwarae rhan bwysig wrth ofalu am ein hiechyd a’n lles ein hunain. Dysgwch am fwyd a hydradu yn ogystal ag atchwanegiadau i ofalu am iechyd ein hesgyrn wrth i ni heneiddio.
Nid yw cwympo yn rhan anochel o heneiddio. Dysgwch am y pethau y gallwn eu gwneud i leihau ein risg o gwympo wrth i ni heneiddio.
Pan fyddwn yn meddwl am fynd yn hŷn, rydym yn aml yn ystyried gwneud newidiadau i’n hamgylchedd ein hunain. Dysgwch am y pethau y gallwch chi eu gwneud i barhau i fyw’n annibynnol, mwynhau eich cartref a rheoli’r gweithgareddau dyddiol sy’n bwysig i chi.
Nodau yw pethau rydyn ni eisiau eu gwneud sy’n bwysig i ni. Dysgu am lunio cynlluniau gweithredu sy’n darparu strwythur i sut y byddwn yn cyflawni ein nodau.
Mae straen a gorbryder yn ymateb arferol i sefyllfaoedd anodd neu bryderus yn ein bywydau. Dysgwch sut i adnabod arwyddion a symptomau straen a’r pethau y gallwn eu gwneud i’w reoli.
Mae cwsg yn weithred hanfodol sy’n caniatáu i’n corff a’n meddwl orffwys a magu nerth. Dysgwch am y pethau y gallwn eu gwneud i wella ansawdd ein cwsg er mwyn teimlo’n fwy ymlaciol ac egnïol.
Gall y term “lles meddyliol” olygu gwahanol bethau i wahanol bobl, gan ddisgrifio’n gyffredinol sut rydym yn meddwl, yn teimlo neu’n ymdopi ar adegau penodol yn ein bywydau. Dysgwch am bethau y gallwn eu gwneud i fagu nerth i hybu ein lles meddyliol.
Bydd cadw’n egnïol a rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder rydyn ni wedi’u hennill o’r cwrs hwn ar waith yn ein galluogi ni i gyd i fyw’n dda wrth i ni heneiddio. Dysgwch fwy am sut y gallwn barhau i symud ymlaen, datblygu a chynnal arferion iach ac edrych ymlaen at ddyfodol o heneiddio’n dda.
Ble alla i fynychu’r Cwrs Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda?
Ar hyn o bryd, darperir y Cwrs Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda yn y lleoliadau canlynol:
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.