Awdioleg
Awdioleg yw’r ddisgyblaeth sy’n ymwneud ag asesu a thrin anhwylderau clyw a chydbwysedd mewn oedolion a phlant.
Gall rhywun gael eu geni â nam ar eu clyw, neu gellir ei gael yn ddiweddarach, ac mae hefyd yn nodwedd arferol o’r broses heneiddio. Gall colli clyw effeithio ar eich gallu i glywed siarad yn glir felly, gall adnabod colli clyw yn gynnar arwain at osod cymorth clyw, a all wella’n sylweddol y gallu i glywed siarad yn glir a gwneud cyfathrebu’n haws.
Weithiau, gall rhai mathau o golli clyw elwa o gymhorthion clyw sydd wedi’u hangori i’r asgwrn (BAHA) neu fewnblaniadau cochlea (CI).
Mae tinitws yn sain sy’n cael ei chynhyrchu gan eich system glyw, ochr yn ochr â cholli clyw yn aml. Mae’n effeithio ar tua 1 o bob 10 o bobl, ond nid yw’n arwydd o unrhyw glefyd fel arfer. I’r rhan fwyaf o bobl mae’n gwella ar ei ben ei hun dros amser. Gall cyfoethogi sain helpu i wneud tinitws yn llai amlwg.
Mae’r glust fewnol yn gyfrifol am ein cydbwysedd, yn ogystal â’n clyw. Weithiau gall anhwylderau’r glust arwain at bendro a cholli cydbwysedd. Bydd gwasanaeth awdioleg arbenigol yn darparu asesiad cydbwysedd ac adsefydlu i bobl â phendro sydd wedi’i achosi gan y glust fewnol.
Beth mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ei gynnig?
Mae asesiadau clyw ar gyfer oedolion ar gael yn yr adran gleifion allanol, er y gwneir eithriad ar gyfer cleifion sy’n gaeth i’r tŷ. Cynigir asesiad clyw pediatrig yn bennaf fel apwyntiadau cleifion allanol yn Ysbyty Plant Arch Noa.
Mae cleifion sydd â phroblemau pendro neu gydbwysedd yn cael eu brysbennu dros y ffôn neu drwy ymgynghoriad fideo i ddechrau, ac yna’n cael eu hasesu yn y clinig cleifion allanol.
Os oes angen help arnoch gydag anawsterau clyw neu bendro, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ddarparwr gofal iechyd arall a all eich cyfeirio chi.
Manylion cyswllt
Os oes angen trwsio eich cymorth clyw, neu os oes angen i chi gysylltu â’r adran, gweler y manylion cyswllt isod:
Adran Awdioleg
Clinig 9 Cleifion Allanol
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
Ffôn: 029 2184 3179 neu e-bostiwch y tîm.