Mae Clefyd Parkinson yn gyflwr niwrolegol cynyddol. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Parkinson’s UK.
Mae’r fideo hwn gan Parkinson’s UK yn fan cychwyn defnyddiol i gael gwybod beth yw’r clefyd:
Mae Tîm Clefyd Parkinson Arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cynhyrchu’r ap My Parkinson’s, sy’n adnodd rhyngweithiol ar y we i rymuso a rhoi gwybodaeth ac offer i bobl sy’n byw gyda Chlefyd Parkinson a’u teuluoedd i’w helpu i reoli’r cyflwr.
Os ydych chi’n pryderu bod gennych chi neu rywun sy’n agos atoch chi Glefyd Parkinson efallai, cysylltwch â’ch meddyg teulu.
Ar hyn o bryd mae’r gwasanaethau sy’n cefnogi pobl â Chlefyd Parkinson yn addasu ac yn newid ond rydyn ni yma o hyd.
Mae dau dîm amlddisgyblaethol ar wahân ar gyfer pobl â Chlefyd Parkinson a byddwch chi’n cael eich rheoli gan y tîm sydd yn y sefyllfa orau i’ch cefnogi.
Os ydych chi’n pryderu, wedi’ch llorio neu’n cael trafferth ymdopi, cysylltwch â’ch meddyg teulu a all eich cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol addas.
Mae Gwasanaeth Arbenigol Clefyd Parkinson yn darparu cymorth amlddisgyblaethol i gleifion o dan y Gyfarwyddiaeth Gerontoleg Glinigol (Ymgynghorwyr Dr Biju Mohamed a Dr Chris Thomas).
Cysylltwch â’ch Arbenigwyr Nyrsio Clefyd Parkinson (Tracy Williams a Sandra Mahon) pan fyddwch angen cymorth, ar 02920 313838. I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Gwasanaeth arbenigol Clefyd Parkinson
Mae gwasanaethau therapi, megis ffisiotherapi, ar gael ar hyn o bryd drwy’r Clinig Clefyd Parkinson neu’r Uned Asesu Gofal Henoed (ECAS). Mae’r Ysbyty Dydd wedi ailagor ond mae llai o le yno oherwydd COVID-19 a chanllawiau pellter cymdeithasol.
Mae’r gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd (SLT) yn gallu helpu os byddwch chi’n sylwi ar newidiadau lleferydd a llyncu. Gall meddyg teulu neu nyrs/meddyg arbenigol eich cyfeirio neu gallwch chi gysylltu â ni yn uniongyrchol ar 02920 743012 neu e-bostiwch y tîm Cleifion Allanol SLT cav.sltoutpatients@wales.nhs.uk.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.