Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ymunwch â’n Grŵp Cydgynhyrchu a Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd!

‘Cydweithio – Cefnogi pobl i fyw yn iach gyda chyflyrau hirdymor yng Nghaerdydd a’r Fro’

Mae ein fforwm yn cyfarfod yn fisol ar-lein, gan roi cyfle i gydweithio i gydgynhyrchu ffyrdd gwahanol o gefnogi pobl gyda chyflyrau hirdymor yng Nghaerdydd a’r Fro! Mae’r fforwm yn agored i unrhyw un sy’n angerddol am wella iechyd a lles pobl yng Nghaerdydd a’r Fro.

Mae croeso i bawb:

  • Unrhyw un sy’n derbyn gofal iechyd
  • Gofalwyr
  • Sefydliadau cymunedol
  • Elusennau/sefydliadau’r trydydd sector
  • Staff Gofal Iechyd

"Rwy’n cyfrannu i’r fforwm hwn ar hyn o bryd, sy’n cyfarfod yn rheolaidd ar-lein, gan roi cyfle i gydweithio er mwyn cyd-gynhyrchu ffyrdd gwahanol o gefnogi pobl â chyflyrau tymor hir yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae fy mhrofiad hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae ein holl waith a’n syniadau yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, a gallwn weld y cynnydd rydyn ni’n ei wneud ym mhob sesiwn. Mae pob syniad a chyfraniad yn cael ei glywed a’i werthfawrogi. Mae’r fforwm yn agored i unrhyw un sy’n angerddol am wella iechyd a lles pobl yr ardal."

Gweithgareddau sydd ar y gweill

Yn y bôn, mae’n ffordd i ni gydweithio gan ddefnyddio ein gwybodaeth, ein sgiliau a’n profiadau unigol i gefnogi pobl i fyw’n dda.

Mae cyd-gynhyrchu yn golygu ein bod ni i gyd yn cymryd rhan fel partneriaid cyfartal. Mae’n gyfle i bawb gyflawni mwy nag y gallen nhw ar eu pennau eu hunain.

Dydyn ni ddim wedi ein cyfyngu i ddim ond rhoi adborth ac aros am ganlyniadau – rydyn ni’n rhannu perchnogaeth o’r camau gweithredu ac yn cydweithio er mwyn creu atebion.

Perthynas, ymddiriedaeth, gwybodaeth a rhannu uchelgeisiau.

Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal yn rhithiol, yn fisol. Gallwch chi gyfrannu cyn lleied neu gymaint o amser ag y dymunwch.

Popeth sy’n ymwneud â chefnogi pobl sydd â chyflyrau hirdymor yng Nghaerdydd a’r Fro! Mae’r fforwm yn ymdrechu i gydweithio fel cymuned i ddatblygu cefnogaeth a gwasanaethau, gan gyrraedd yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i boblogaeth Caerdydd a’r Fro.

Mae’r fforwm eisoes wedi cynhyrchu nifer enfawr o syniadau sydd wedi cael eu datblygu mewn ffyrdd gwahanol. Weithiau bydd trafodaeth lawn mewn grwpiau ar un pwnc; weithiau byddwn yn rhannu’n grwpiau llai yn ôl ein diddordebau; weithiau bydd pobl yn cwrdd y tu allan i’r grŵp os oes pwnc neu faes penodol sydd angen mwy o waith a thrafodaeth.

Dyma rai enghreifftiau –

  • Pwysigrwydd digidol
  • Sut i ddatblygu rhwydweithiau cymorth
  • Cynhwysiad
  • Cydraddoldeb o ran mynediad
  • Sut mae gwella’r ardaloedd aros mewn ysbytai

Mae llawer o bobl yn y grŵp ac un o’r llwyddiannau allweddol yw’r perthnasoedd a’r rhwydweithiau sydd wedi’u ffurfio, gan gydweithio a rhannu uchelgeisiau.

Rydym yn chwilio am fwy o bobl fyddai â diddordeb mewn cyfrannu a gweithio gyda ni!

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content