Gall eich helpu i gynnal eich lles meddyliol a chorfforol yn ystod eich triniaeth a’ch cynorthwyo i wella wedyn.
Mae’r tudalennau hyn yn rhannu amrywiaeth o wybodaeth a chyngor am yr hyn y gallwch ei wneud i baratoi’ch hun orau ar gyfer eich triniaeth a’r hyn y gallwch ei wneud yn ystod eich triniaeth i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl, yn ogystal â darparu gwybodaeth i’ch helpu i wella. Mae’r wybodaeth hon yn ymwneud â llawdriniaeth yn gyffredinol ac mae ganddi wybodaeth benodol ar gyfer pobl â chanser a phobl sy’n paratoi ar gyfer llawdriniaeth orthopedig.
Mae pandemig COVID-19 wedi newid y ffordd y mae cleifion yn cael llawdriniaeth ddewisol. Os ydych chi’n dod i’r ysbyty i gael llawdriniaeth, bydd eich tîm meddygol yn gofyn i chi ddilyn arweiniad penodol cyn i chi gael eich derbyn i’r ysbyty.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.