Tîm Adferiad COVID Hir
Gall adferiad o Covid-19 amrywio’n fawr o berson i berson. I rai pobl mae adferiad yn fyr. I eraill gall symptomau bara wythnosau neu fisoedd. Efallai eich bod yn dal i ddod i delerau ag effaith y firws ar eich corff a’ch meddwl.
Mae’n gyffredin i deimlo’n flinedig ac wedi blino, a gall symptomau eraill gynnwys diffyg anadl a pheswch, problemau gyda’r cof neu ganolbwyntio, poenau yn y cyhyrau a’r cymalau. Gall y rhain wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd yn anodd. Gall symptomau fynd a dod. Mae’n bwysig peidio â rhuthro i fynd yn ôl i fywyd “normal”.
Mae pawb yn cael eu heffeithio’n wahanol, felly peidiwch â chymharu’ch hun ag eraill. Yn gyffredinol, dylai’r symptomau hyn wella gydag amser, bydd rhai pethau’n cymryd mwy o amser nag eraill.
Os ydych chi’n dal i gael anawsterau, neu’n profi symptomau COVID parhaus sy’n peri pryder i chi, gallwch ofyn i’ch Meddyg Teulu neu Weithiwr Gofal Iechyd eich cyfeirio at Dîm Adfer COVID Hir Caerdydd a’r Fro.
Mae’r Tîm Adferiad COVID Hir yn dîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys:
- Therapi Galwedigaethol
- Ffisiotherapi
- Therapi Iaith a Lleferydd
- Dieteg
- Seicoleg
Rôl y tîm yw cefnogi dull cydgysylltiedig o hwyluso rhaglen “Eich Adferiad COVID-19”, sydd wedi’i theilwra’n unigol ar gyfer pobl â symptomau COVID-19 parhaus (gan gynnwys Long COVID-19). Byddwn yn cydweithio â gwasanaethau adsefydlu presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a chymorth trydydd sector. Ni fydd yn disodli unrhyw wasanaethau, gan nad oes capasiti i gynnig hyn.
Gweledigaeth Tîm Adferiad COVID Hir yw cerdded ochr yn ochr â phobl â symptomau COVID-19 parhaus wrth iddynt wella, i wella eu strategaethau a’u sgiliau i wneud y gorau o’u taith. Oherwydd natur COVID-19 mae’n bwysig cydnabod ein bod yn dysgu am y cyflwr hwn wrth i dystiolaeth a phatrymau ddod i’r amlwg, gan weithio mewn partneriaeth â phobl sy’n profi’r cyflwr hwn.