Yng Nghymru, mae tua 10,000 o bobl yn cael eu derbyn i ofal critigol y flwyddyn.
Bydd llawer o’r cleifion hynny’n ‘ddifrifol wael’ pan fyddan nhw’n cael eu derbyn sy’n golygu bod un neu fwy o’u horganau mawr yn methu (e.e. calon, ysgyfaint, iau, arennau).
Bydd rhai pobl yn cyfeirio at ofal critigol fel ICU, ITU, gofal dwys, HDU neu ddibyniaeth uchel, sy’n gallu bod yn ddryslyd. Ar y dudalen we hon, at ddiben yr wybodaeth sy’n cael ei darparu, byddwn yn cyfeirio ato fel gofal critigol.
Mae gan yr uned gofal critigol ystod eang o staff sy’n cynnwys meddygon gofal critigol, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy’n gallu defnyddio amrywiaeth o offer a meddyginiaethau i roi cymorth i organau, triniaeth ac adferiad i’ch helpu i wella.
Mewn gofal critigol, mae gan gleifion lawer mwy o anghenion gofal na’r rhai ar wardiau cyffredinol yr ysbyty. Mae gan bob claf nyrs benodol i ofalu amdanyn nhw yn ystod y dydd ac un arall yn y nos, ac mae tîm o feddygon gofal critigol dan arweiniad ymgynghorydd gofal critigol yn asesu eu salwch a’u hymateb i driniaeth drwy gydol y dydd.
Mae uned gofal critigol yn yr ysbytai canlynol yng Nghymru:
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am uned gofal critigol Ysbyty Athrofaol Cymru neu os hoffech chi gael gwybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro cliciwch yma.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am uned gofal critigol Ysbyty Athrofaol Cymru neu os hoffech chi gael gwybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro cliciwch yma.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.