Staff y gallech chi eu cyfarfod mewn gofal critigol

Mae llawer o wahanol bobl yn gweithio ym maes gofal critigol. Dyma ddisgrifiad byr o rai o’r aelodau staff rydych chi’n fwyaf tebygol o’u gweld yn ystod eich arhosiad mewn gofal critigol. Efallai y byddwch chi’n dod ar draws aelod o staff nad yw ei rôl swydd yn cael ei disgrifio isod. Os nad ydych chi’n siŵr pwy yw rhywun, gofynnwch iddo/i esbonio pwy ydyw a sut y bydd yn eich cefnogi chi neu eich anwylyn yn ystod eich/eu harhosiad gofal critigol.

Tîm Meddygol Arbenigol

Ymgynghorwyr profiadol sy’n rhoi diagnosis a thrin cleifion sy’n ddifrifol wael. Maen nhw’n arwain gofal cyffredinol cleifion ac mae ganddyn nhw dîm o Feddygon ac Ymarferwyr Gofal Critigol Uwch sy’n eu cefnogi.

Nyrsys

Maen nhw’n helpu i ofalu am eich anghenion gofal o ddydd i ddydd ac maen nhw o gwmpas drwy’r dydd a’r nos. Efallai y bydd pob nyrs yn gofalu am un neu ddau o bobl sy’n ddifrifol wael ar y tro, gan ddibynnu ar eu hanghenion.

Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd

Maen nhw’n helpu’r nyrsys i ofalu amdanoch chi.

Technegwyr

Nyrsys ac Ymarferwyr profiadol sydd â chefndir yn yr Adran Lawfeddygol sy’n cynorthwyo gyda gweithredoedd, trosglwyddo cleifion a gofalu bod ein hoffer yn ddiogel.

Staff Fferylliaeth

Gyda’r tîm meddygol a nyrsio, maen nhw’n gofalu am sut mae meddyginiaethau yn cael eu defnyddio a’u cyflenwi, a diogelwch meddyginiaethau.

Ffisiotherapyddion (Ffisio)

Byddan nhw’n eich helpu chi i gynnal ac adennill eich cryfder a’ch symudedd. Byddan nhw hefyd yn asesu eich anadlu ac yn helpu i glirio secretiadau oddi ar eich brest.

Therapyddion Galwedigaethol (OT)

Byddan nhw’n eich helpu gyda’ch trefn ddyddiol a sut i ddychwelyd i wneud gweithgareddau sy’n bwysig i chi. Gallan nhw eich helpu i oresgyn neu addasu i unrhyw newidiadau a ddaw o ganlyniad i’ch salwch neu anaf.

Therapyddion Iaith a Lleferydd (SALT)

Maen nhw’n helpu pobl sy’n cael trafferth llyncu a chyfathrebu. Gallan nhw eich helpu i oresgyn neu addasu i’r anawsterau hyn.

Icon depicting someone receiving fluid through a nasal tube
Icon depicting someone receiving fluid through a nasal tube

Deietegwyr

Maen nhw’n rhoi cymorth ynghylch cael digon o faeth, pryd i’w gael a’r ffordd gywir o’i gymryd, er mwyn eich helpu i wella.

Seicolegydd Clinigol

Mae bod mewn Gofal Critigol yn gyfnod anodd. Gallan nhw gynnig rhywfaint o gefnogaeth emosiynol i chi a’r bobl sy’n bwysig i chi.

Cynorthwywyr Adsefydlu

Maen nhw’n cefnogi’r tîm therapi wrth ofalu amdanoch chi a’ch helpu i gyrraedd eich nodau.

Keeping Me Well logo

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content