Problemau cyffredin y gallech chi eu profi yn ystod eich arhosiad gofal critigol

Adsefydlu

Ar ôl bod yn ddifrifol wael efallai y byddwch chi’n profi heriau corfforol a seicolegol parhaus. Gall y rhain barhau a/neu newid wrth i chi symud ymlaen drwy eich adferiad o’r uned gofal critigol i’r ward ac yna gartref.  

Nod y broses adsefydlu yw eich galluogi i ddychwelyd at allu cwblhau tasgau dyddiol gartref a bod mor annibynnol â phosibl. Bydd gan bawb anghenion adsefydlu gwahanol (rhai y gallech chi wella ohonynt yn gyflym ond gall eraill gymryd mwy o amser) ac mae’r rhain yn cael eu hasesu’n gynnar yn eich arhosiad gofal critigol a thrwy gydol eich adferiad. Bydd nodau adsefydlu yn cael eu trafod fel eich bod chi’n cytuno â nhw a gallan nhw gynnwys cefnogaeth gan sawl aelod o’r tîm therapi gan gynnwys Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Therapi Lleferydd ac Iaith, Deieteteg a Seicoleg. 

Dyma rai o’r anawsterau cyffredin y mae pobl yn eu profi yn dilyn arhosiad gofal critigol, a gwybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i reoli’r problemau hyn. 

Problemau cyffredin

Yn ystod salwch critigol gall eich ysgyfaint a’ch cyhyrau anadlu fynd yn wan ynghyd â rhannau eraill o’ch corff. Pan fyddwch chi’n ddifrifol wael, efallai y bydd peiriant anadlu yn eich helpu i anadlu. Mae’r peiriant hwn yn gwthio aer i’r ysgyfaint a gellir ychwanegu ocsigen os oes angen. Gall eich ysgyfaint fynd yn wan ar ôl bod ar y peiriant hwn gan fod y peiriant yn gwneud gwaith y cyhyrau anadlu er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw orffwys tra byddwch chi’n sâl.

Pan fydd claf yn defnyddio peiriant anadlu, mae’n beth cyffredin cael mwy o secretiadau yn yr ysgyfaint. Bydd hyn yn cael ei glirio drwy sugno, sef y broses o roi tiwb tenau yn y tiwb anadlu ac i mewn i’r ysgyfaint.

Bydd rhai pobl angen tiwb traceostomi wrth gael gofal critigol. Dyma diwb sy’n cael ei roi i mewn yn y llwybr anadlu (pibell wynt) er mwyn eich helpu i anadlu. Fel arfer bydd yn cael ei osod dros dro ac yn cael ei ddefnyddio tra bydd y tîm gofal critigol yn gweithio i’ch tynnu oddi ar y peiriant anadlu. Unwaith y byddwch chi’n gallu anadlu heb y peiriant anadlu, bydd y tîm gofal critigol yn gweithio i leihau eich dibyniaeth ar y traceostomi a’i dynnu pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.

Wrth wella, efallai y byddwch chi’n sylwi na allwch chi anadlu mor ddwfn ag yr oeddech chi’n arfer ei wneud. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn teimlo allan o wynt wrth wneud gweithgaredd a oedd yn hawdd i chi o’r blaen. Wrth i chi ddechrau gwella, gall y cyhyrau hyn ddod yn gryfach eto.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â rheoli eich anadlu ar ôl salwch critigol, cliciwch ar y ddolen isod:

Anadlu ar ôl salwch critigol (dolen i daflen wybodaeth gamau ICU – Problemau Anadlu 2020 v2009.indd)

Nid yw’n beth anarferol colli nerth yn eich breichiau a’ch coesau. Bydd hyn yn effeithio ar eich gallu i wneud gweithgareddau dyddiol, symud yn y gwely, codi ar eich eistedd a sefyll ar eich traed. Efallai y byddwch chi’n teimlo anystwythder o fewn eich cymalau a allai achosi poen i chi hefyd. Mae hyn yn normal a bydd y tîm cyfan yn gweithio gyda chi i adennill eich cryfder, eich gweithgarwch a’ch annibyniaeth.

Yn ystod eich adferiad byddwn yn defnyddio cadeiriau sy’n rhoi cynhaliaeth wrth i chi eistedd. Gellir defnyddio gwahanol offer wrth i chi gryfhau er mwyn eich helpu i godi o’r gwely, gwneud tasgau bob dydd, sefyll a cherdded.

Mae’r ddolen ganlynol yn dangos rhai o’r ymarferion y gallwch chi eu gwneud i’ch helpu i gryfhau eich dwylo. 

Gall eich tîm therapi eich helpu gydag ymarferion ac offer adsefydlu mwy penodol ar ofal critigol.

Mae’n beth digon cyffredin teimlo’n flinedig ar ôl unrhyw weithgaredd wrth i chi gryfhau. Bydd hyn yn gwella gydag amser a thrwy ymarfer. Gall y tîm roi cyngor ynghylch amseru, cynllunio a blaenoriaethu eich gweithgareddau a’ch adsefydlu er mwyn rheoli hyn.

Nid yw’n anarferol cael trafferth cyfathrebu pan fyddwch chi mewn gofal critigol. Gall hyn fod oherwydd y tiwbiau anadlu sy’n eich atal rhag defnyddio eich llais, trawma/difrod oherwydd y tiwbiau anadlu sy’n effeithio ar eich tannau lleisiol neu anaf i’ch ymennydd sy’n effeithio ar leferydd ac iaith. 

Weithiau bydd y llais yn newid ar ôl mewndiwbio. Mae hyn oherwydd bod y tiwb anadlu yn mynd drwy eich laryncs ac yn gallu achosi trawma a llid i’ch tannau lleisiol a strwythurau eraill o’u cwmpas. Mae hyn yn aml yn achosi newidiadau dros dro i’ch llais. Bydd y Therapydd Lleferydd ac Iaith yn asesu defnydd eich llais, yn eich cynghori ynghylch strategaethau/ymarferion y gallwch chi eu gwneud i helpu ac os oes angen trefnu asesiad Clust, Trwyn a Gwddf (ENT) hefyd. 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ynghylch problemau llais ar ôl mewndiwbio.

Dyma gyflwyniad cyffredinol i’r effaith y gall arhosiad mewn gofal critigol ei gael ar eich anghenion maethol.

Bydd rhai pobl yn gwella’n gyflym ac ni fydd angen llawer o gefnogaeth barhaus arnynt. Fodd bynnag, bydd eraill angen mwy o amser a help gyda’u hadferiad.

Bwydo Artiffisial

Pan fydd pobl yn cyrraedd gofal critigol, yn aml iawn ni fyddan nhw’n gallu bwyta nac yfed fel yr oedden nhw a bydd angen gosod tiwb bwydo. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael tiwb bwydo wedi’i osod drwy’r trwyn, i lawr i’r gwddf ac i mewn i’r stumog. 

Efallai na fydd rhai pobl yn gallu bwyta nac yfed am gyfnod hirach, felly efallai y byddan nhw’n cael tiwb bwydo wedi’i osod yn uniongyrchol i’r stumog. Bydd eraill yn cael problemau gyda’r stumog sy’n golygu nad ydyn nhw’n gallu defnyddio eu stumog i gael digon o faeth. Efallai y bydd y cleifion hyn yn cael maeth wedi’i ddosbarthu’n uniongyrchol i’w llif gwaed drwy ddrip. 

Dim ond am gyfnod byr y bydd rhai pobl angen tiwbiau bwydo; efallai y bydd eraill ei angen am gyfnod hirach. Pan na fyddwch yn defnyddio’r peiriant anadlu mwyach, bydd y Deietegydd yn ceisio cael gwared ar y tiwb bwydo unwaith y byddwch chi’n gallu bwyta ac yfed digon.

Trafferthion cyffredin wrth fwyta ac yfed

Yn ystod ac ar ôl bod mewn gofal critigol, maen beth digon cyffredin cael trafferth bwyta ac yfed am sawl rheswm. Dyma ambell un: 

  • ddim yn teimlo’n llwglyd 
  • teimlo’n llawn yn gyflym 
  • teimlo’n sâl 
  • teimlo’n flinedig neu’n wan 
  • eich synnwyr arogl a blas yn newid. 

Mae’n gallu cymryd amser i’ch archwaeth ddychwelyd.

Bydd rhai pobl yn cael trafferth llyncu (dysffagia). Gall gweithrediad llyncu gael ei effeithio hefyd yn ystod salwch critigol o ganlyniad i drawma o diwbiau anadlu, gwendid cyffredinol a niwed i’r ymennydd a’r nerfau.

Mae llyncu yn defnyddio’r un cyhyrau â lleisio a siarad, felly mae hyn yn golygu, fel gyda’ch llais, ei bod yn gyffredin i’ch llwnc gael ei effeithio gan diwb anadlu. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd llyncu bwyd a diod, ac ar adegau mae’n anodd llyncu poer hefyd.

Rhan o waith y Therapydd Lleferydd ac Iaith yw asesu diogelwch llyncu ac adferiad a gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu bwyd a’u hylifau mewn ffordd sy’n ddiogel iddyn nhw. Os bydd llyncu’n cael ei effeithio, gall bwyd a diod fynd i lawr y ffordd ‘anghywir’ ac achosi haint ar y frest. Efallai bydd yn rhaid i chi ddechrau bwyta ac yfed yn araf a bydd y mathau o fwyd y gallwch chi eu cael yn gyfyngedig. Bydd y Therapydd Lleferydd ac Iaith yn gweithio gyda’r Deietegydd i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael digon o fwyd a hylifau’n ddiogel.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am anawsterau llyncu (dysffagia) ar ôl mewndiwbio.

Gall y Therapydd Galwedigaethol eich helpu i fod mor annibynnol â phosibl, a rhoi offer i chi os oes angen eu defnyddio pan fyddwch chi’n bwyta ac yfed.

Nid yw’n anarferol i bobl golli pwysau a chyhyrau yn ystod eu harhosiad gofal critigol. Bydd bwyta ac yfed yn dda yn gymorth i wella.

Adnoddau pellach

Os oes gennych chi rai o’r problemau uchod, mae cymorth ac arweiniad ar sut i oresgyn yr anawsterau yn y dolenni canlynol:

Wrth i chi ddechrau gwella, mae gwneud rhai gweithgareddau dyddiol sylfaenol fel ymolchi neu frwsio’ch dannedd yn rhan bwysig o gryfhau a dod yn fwy annibynnol. Bydd gwneud y tasgau hyn yn rhoi rhywfaint o ysgogiad gwybyddol i chi ac yn hyrwyddo lles.

Bydd y tîm yn eich annog i ddechrau gwneud mwy drosoch chi eich hun a lle bo’n bosibl byddwch chi’n cael cymorth i gymryd rhan mewn tasgau bob dydd fel mynd i’r toiled, bwydo a gwisgo.

Gall y Therapydd Galwedigaethol eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, gan fynd ymlaen i fod yn fwy annibynnol wrth i’ch galluoedd newid. Gallwch chi gyflawni hyn drwy wahanol ffyrdd o wneud pethau neu ddefnyddio cymhorthion a chyfarpar i helpu.

Efallai y byddwn ni’n trafod dod â phethau o gartref a allai wneud i’r dasg deimlo’n fwy personol a’ch helpu i fynd yn ôl i’ch trefn ddyddiol.

Mae bod yn sâl ac yn yr ysbyty yn gallu effeithio ar eich cof a’ch meddwl. Efallai eich bod chi’n teimlo’n ddryslyd ac yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio a deall beth sy’n digwydd o’ch cwmpas. Efallai y byddwch chi hefyd yn ei chael hi’n anodd cofio pethau. Mae hyn yn arferol, a bydd yn gwella dros amser wrth i’ch cyflwr corfforol wella.

Gall cymaint â dau o bob tri chlaf sy’n ddifrifol wael ddatblygu deliriwm. Mae deliriwm yn cael ei ddisgrifio fel cyflwr o ddryswch acíwt. Mae’n gallu ei gwneud hi’n anodd meddwl yn glir, talu sylw a deall beth sy’n digwydd o’ch cwmpas. Weithiau, efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gweld neu’n clywed pethau nad ydynt yno ond yn ymddangos yn real iawn. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael breuddwydion real a phryderus iawn. Mae’n gallu eich gwneud chi’n ofnus a gwneud i chi ymddwyn yn groes i’ch cymeriad.

Dyma rai pethau sy’n gallu helpu i reoli deliriwm:

  • cael sicrwydd a chael eich cyfeirio at bethau cyfarwydd gan y rhai o’ch cwmpas
  • pobl a phethau cyfarwydd o’ch cwmpas
  • gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio sbectol / cymhorthion clyw os oes angen
  • trefn strwythuredig
  • lle bo’n bosibl, gwneud gweithgareddau bob dydd.

Fel arfer mae deliriwm yn rhywbeth dros dro a bydd yn gwella wrth i’ch cyflwr corfforol wella. Byddwch chi’n dechrau teimlo’n fwy effro a chysgu’n well. Unwaith y byddwch chi’n teimlo’n well, efallai y byddai’n fuddiol siarad ag un o’r tîm er mwyn eich helpu i wneud synnwyr o’ch profiad.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Ddeliriwm a gofal dwys.

Mae’n beth digon cyffredin teimlo llawer o emosiynau gwahanol tra byddwch chi mewn Gofal Critigol. Efallai y byddwch chi’n teimlo’n ofnus, wedi’ch llethu, yn poeni, yn drist, yn isel neu dan straen. Efallai y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi â’r teimladau hyn oherwydd problemau gyda’r meddwl a’r cof, ac anawsterau cyfathrebu. Pan fyddwch chi’n teimlo eich bod chi’n gallu gwneud hynny, fe allai fod o gymorth i chi siarad ag un o’r tîm sy’n gallu eich helpu chi i wneud synnwyr o sut rydych chi’n teimlo.

GIG Cymru | NHS Wales

Hefyd yn yr adran hon

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content