Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Menopos

Croeso i’n tudalen Gwybodaeth am y Menopos

Mae’r menopos yn gallu cael un o’r effeithiau mwyaf erioed ar ein bywydau, a hynny ar adeg pan fyddwn ni’n aml dan fwy o straen yn bersonol ac yn broffesiynol nag erioed o’r blaen. Mae llawer o fenywod yn cefnogi rhieni sy’n heneiddio, yn ogystal â helpu plant sy’n oedolion ifanc i hedfan o’r nyth, a chynnal swyddi dyddiol heriol hefyd.

Cyd-gynhyrchwyd gan fenywod, ar gyfer menywod, fel man cychwyn defnyddiol i’n helpu i ddeall a delio â’r newidiadau sy’n wynebu ein cyrff.

O ystyried bod gennym dderbynyddion estrogen ym mhob cell yn ein cyrff, nid yw’n syndod ein bod yn gallu profi ystod eang iawn o symptomau wrth i’r hormon hwnnw ostwng dros amser.
Lady surrounded by health and wellbeing related icons

Cyd-gynhyrchwyd gyda

Mae Dr Tomlinson, meddyg teulu ym Mro Morgannwg ac aelod cofrestredig o Gymdeithas Menopos Prydain, yn rhoi esboniad byr o’r menopos mewn llai na 4 munud.

Beth yw’r Menopos?

Stori Emma

Stori Chrissy

Chwalu’r ‘chwedlau’

Mae sawl coel gwrach am y menopos. Gofynnon ni i feddyg teulu arbenigol pa rai sy’n wir a pha rhai sy’n anwiredd. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, ymgynghorwch â’ch meddyg teulu eich hun.

Cliciwch ar bob ‘chwedl’ i ddatgelu ffeithiau am y menopos.

Yr oedran cyfartalog i fenyw ddechrau’r menopos yw 51 ond mae unrhyw oedran rhwng 45 a 55 yn gyffredin. Gall rhai menywod yn eu 30au brofi menopos cynnar, gyda rhai menywod yn ei brofi mor hwyr â’u 60au cynnar.

Mae meinwe’r bledren yn tueddu i deneuo yn ystod y menopos a daw’r wrethra yn fwy amlwg, gan wneud anymataliaeth a brys wrinol yn broblem i rai merched. Fodd bynnag, gall ymarferion llawr y pelfis, triniaethau estrogen yn y fagina (hufen, pesari neu gel) a meddyginiaethau helpu.

Er ei bod yn wir fod newidiadau hormonaidd yn achosi i’r corff storio mwy o fraster o amgylch yr abdomen a’r cluniau yn ystod y menopos, yn sicr nid yw’n

anochel y byddwch chi’n magu pwysau ond efallai y bydd angen i chi newid eich deiet a gwneud ychydig mwy o ymarfer corff.

Gallwch chi ddechrau HRT o’r eiliad y byddwch chi’n teimlo symptomau’r perimenopos. Mewn gwirionedd, mae dadl dros gymryd HRT fel mesur ataliol, gan fod astudiaethau’n dangos ei fod yn rhoi buddion iechyd tymor hir i lawer o fenywod, gan leihau’r risg o osteoporosis, toriadau esgyrn a chlefyd y galon. Mae astudiaethau newydd yn dangos gostyngiad posibl yn y perygl o gael clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia hefyd.

Poeni am farw o ganser y fron mewn perthynas â HRT y mae menywod gan amlaf. Dim ond ychydig bach o risg o gael canser y fron sydd gyda defnydd hirdymor o HRT (dros 5 mlynedd). Mae bod yn ordew neu yfed mwy na 2 uned o alcohol y dydd yn cynyddu’r risg o ganser y fron yn fwy na chymryd HRT. Mae mwy o fenywod yn marw o glefyd y galon na chanser y fron. Mae’r rhan fwyaf o ganserau’r fron yn rhai y gellir eu trin/eu gwella.

Os dechreuir cymryd HRT cyn bod yn 60 oed, neu o fewn 10 mlynedd i’r menopos, gall helpu i atal clefyd cardiofasgwlaidd. Nid oes tystiolaeth o fwy o risg o salwch cardiofasgwlaidd megis trawiad ar y galon neu strôc o gymryd HRT. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu bod y risg o ganser y coluddyn yn cael ei leihau mewn menywod sy’n cymryd HRT. Yn ogystal â hynny, gall HRT amddiffyn yn erbyn osteoarthritis neu helpu osteoarthritis a phoen yn y cymalau, a helpu i reoli lefelau glwcos mewn menywod sydd â diabetes Math 2.

Felly, mae llawer o fenywod yn pwyso a mesur y risg ychydig yn uwch o gael canser y fron gyda’r gwelliant enfawr yn ansawdd eu bywyd ar ôl cymryd HRT ac yn penderfynu ei bod yn risg y maen nhw’n ei hystyried yn werth ei chymryd, yn enwedig o’i chydbwyso â buddion iechyd HRT wrth leihau’r risg o osteoporosis, clefyd y galon a dementia.

Pyliau poeth yw’r symptom mwyaf cyffredin ond ni fydd pob menyw yn eu profi. Yn anffodus, bydd tair allan o bob 4 menyw yn eu profi. Gall eich symptomau eich hun fod yn wahanol a heb fod yn amlwg ar unwaith ond gwnewch restr o newidiadau diweddar yr ydych wedi sylwi arnynt. Mae gorbryder a hwyliau isel ynghyd â gostyngiad yn y libido hefyd yn symptomau perimenopawsol cyffredin iawn.

Mae gan HRT lawer o fanteision iechyd cysylltiedig i lawer o fenywod. Mae ein disgwyliad oes wedi cynyddu’n aruthrol – gallwn bellach fyw am 30 mlynedd ar ôl mynd drwy’r menopos. Mae gan ein cyrff dderbynnydd estrogen ym mhob cell a phan fydd diffyg estrogen, gall ein cyrff elwa o ddisodli’r estrogen hwnnw â hormonau corff union yr un fath.

(Gweler hefyd wybodaeth am ‘chwedl’ rhif 5)

Os oes gennych hanes o feigryn, gallech ddewis HRT ar ffurf patsh neu gel (trawsdermol) yn hytrach na thabledi, ond gallwch, gallwch chi gymryd HRT.

Na, does dim uchafswm amser y gallwch chi gymryd HRT. Maen dibynnu ar eich amgylchiadau, eich risgiau ach buddion unigol, ach dewis personol. Gallwch aros ar HRT am gyfnod amhenodol. 

Os ydych chin profi symptomau menopos ar ôl stopio HRT, byddech chi wedi eu profi hyd yn oed pe na baech chi erioed wedi bod yn ei gymryd. 

Cynghorion Campus

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content