Cam wrth Gam
Pecyn cymorth cam wrth gam i’ch helpu i ddarganfod EICH HUN
Gall byw gyda chyflwr iechyd fod yn anodd. Gall effeithio ar sut rydych chi’n teimlo a beth allwch chi ei wneud. Mae’r pecyn cymorth hwn yn gofnod personol o’r pethau y gallwch chi eu gwneud i gadw eich hun yn iach a byw’r bywyd rydych chi’n dymuno, gan ddarganfod beth sy’n bosibl.
Nid oes dau berson yr un peth. Mae’r pecyn cymorth hwn i chi ei ddefnyddio ar gyfer eich sefyllfa bersonol eich hun.
Fe’i cynlluniwyd i’ch cefnogi i ddarganfod ‘normal newydd’ ac i fyw bywyd llawn a hapus.

Personoli’r pecyn cymorth
Defnyddiwch ef yn electronig gan ychwanegu eich meddyliau a’ch syniadau, neu ei argraffu ac ysgrifennu arno. Mae croeso i chi ysgrifennu neu dynnu lluniau ar y pecyn cymorth yn eich arddull eich hun. Y peth pwysig yw ei fod yn adnodd sy’n gweithio i chi.
Felly, ychwanegwch y pethau personol canlynol:
- syniadau
- meddyliau
- amserlen
- dyddiadur cynnydd
- rhestrau o ysgogiadau
…beth bynnag sy’n eich helpu i’ch darganfod CHI.
Lawrlwythwch gopi o becyn cymorth Cam wrth Gam yn y fersiwn sydd orau gennych neu gofynnwch am gopi papur.
Diolch am rannu eich adborth. Mae eich barn yn werthfawr er mwyn sicrhau y gall Cam wrth Gam helpu i gefnogi pobl ledled Caerdydd a’r Fro i fyw’n dda.