Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAS)

Caiff pob claf sy’n cael eu cyfeirio at ALAS eu hasesu gan y Nyrs Clinigol Arbenigol. Gellir cwblhau hyn tra byddwch yn dal i fod yn yr ysbyty neu pan fyddwch wedi dychwelyd adref.  Bydd yr Nyrs Clinigol Arbenigol yn cwblhau asesiad ac yn penderfynu a ydych yn addas ar gyfer eich cyfeirio at Dîm Ffisiotherapi ALAS.

Bydd y Ffisiotherapydd yn trafod y canlynol gyda chi:

  • Manylion eich trychiad
  • Hanes Meddygol Blaenorol
  • Meddyginiaeth
  • Amgylchiadau Cartref
  • Nodau

(Mae’n ddefnyddiol dod ag unrhyw wybodaeth am eich hanes meddygol blaenorol a’ch meddyginiaeth gyda chi.)

 Bydd y Ffisiotherapydd hefyd yn edrych ar:
  • Gyflwr gweddill eich aelod (y goes sydd wedi’i thorri i ffwrdd)
  • Cyflwr eich aelod arall (y goes sydd ar ôl)
  • Eich gallu i drosglwyddo o gadair olwyn i’r gwely
  • Eich gallu i eistedd ar ymyl y gwely
  • Ystod o symudiadau yn eich holl aelodau
  • Cryfder yn eich aelodau uchaf ac isaf
  • Eich gallu i sefyll
  • Os yw’n briodol, eich gallu i gerdded (gan ddefnyddio Cyfarpar PPAM neu Femurett)

Os yw’r Nyrs Clinigol Arbenigol a’r Ffisiotherapydd yn hapus, yna byddwch yn cael eich mesur ar gyfer hosan arbennig o’r enw JUZO (y mae’n rhaid i chi ei gwisgo dros eich coes sydd wedi’i thorri i ffwrdd).

Yna byddwch yn barod i gael eich cyfeirio at y Tîm Prosthetig a fydd yn eich asesu, yn eich mesur ac yn gwneud aelod artiffisial i chi.

Unwaith y byddwch chi a’r Ffisiotherapydd yn hapus y gallwch ddefnyddio’r aelod artiffisial yn ddiogel ac yn effeithiol, yna byddwch yn mynd ag ef adref. Efallai y bydd angen i chi barhau i fynychu’r ganolfan aelodau er mwyn parhau â’ch adsefydlu yn dibynnu ar ba mor gyflym y byddwch yn symud ymlaen.

Unwaith y byddwch wedi cael eich rhyddhau o Ffisiotherapi, byddwch yn derbyn apwyntiadau dilynol hirdymor fel y bo’n briodol gyda’r Tîm Prosthetig.

Cliciwch y botwm isod er gwybodaeth i chi am y broses adsefydlu yn y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAC)

Taflenni Defnyddiol:

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content