Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Gweithgarwch Corfforol

Man looking at exercise icon

Bod yn egnïol yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i gefnogi ein hiechyd a’n lles.

Mae’n helpu i gadw pwysau iach, yn lleihau straen, yn codi’r hwyliau, yn cryfhau’r esgyrn a’r cyhyrau ac yn lleihau’r risg o ddatblygu cyflyrau cronig, gan gynnwys clefyd y galon, diabetes a strôc.

Symud mwy a symud yn aml

Dylai oedolion anelu am o leiaf 150 munud o weithgarwch cymedrol yr wythnos, gyda chyfradd anadlu uwch ond yn eu bod yn dal i allu siarad, neu 75 munud o weithgarwch egnïol gyda chyfradd anadlu gyflym ac anhawster siarad, neu gyfuniad o’r ddau.

Dylid gwneud ymarfer cryfder a chydbwysedd o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos. Os ydych yn teimlo’n wan o ganlyniad i gyfnod yn yr ysbyty neu gyfnod o anweithgarwch estynedig, gallai ein rhaglen cryfder a stamina fod yn fan cychwyn defnyddiol i chi, dilynwch y ddolen hon am fwy o wybodaeth.

Symudwch fwy, eisteddwch lai, dechreuwch yn araf ac adeiladwch at fod yn egnïol am 30 munud bob dydd. Mae hyd yn oed 10 munud o weithgarwch ar y tro wedi’i brofi i fod o fudd i’ch iechyd.

Mae canllawiau wedi’u cynhyrchu ar gyfer gwahanol oedrannau a chyfnodau mewn bywyd. Mae’r ffeithluniau hyn yn rhoi mwy o fanylion a syniadau am sut i ffitio gweithgarwch corfforol i mewn i’ch diwrnod.

Awgrymiadau ar gyfer adeiladu gweithgarwch corfforol i’ch arferion byw bob dydd

Mae amryw o bethau bob dydd y gallwn eu gwneud i gynyddu ein lefelau gweithgarwch corfforol, megis gwaith tŷ egnïol, garddio a cherdded. Gallai syniadau eraill gynnwys:

  • Mynd am dro sionc yn gyson a gwneud defnydd o barciau a mannau gwyrdd lleol.
  • Defnyddio’r car lai a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Rhoi cynnig ar weithgareddau newydd mewn canolfannau hamdden lleol.
  • Bydd ymarferion cryfder a chydbwysedd, fel Tai Chi, dawns neu loga i bobl hŷn yn cynyddu gweithgarwch a gallan nhw helpu i leihau’r risg o gwympo.
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content