Mae’r Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith Plant yn gweithio gyda theuluoedd, staff addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i gefnogi sgiliau lleferydd, iaith, cyfathrebu a bwydo plant.
Gall y Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith Plant gynnig cyngor a chymorth er mwyn ichi helpu i gefnogi datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn. Gall ein tîm dysffagia gynnig cyngor a chymorth ynghylch sgiliau bwydo a llyncu eich plentyn.
Cliciwch ar y ddolen canlynol i’ch tywys i’r cyngor perthnasol i chi a’ch plentyn.
Mae Talk with Me yn dudalen ymgyrchu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r dudalen yn cynnwys adrannau ar gyfer rhieni ac ymarferwyr, gyda gwybodaeth ac adnoddau i helpu plant gyda dysgu i siarad. Bydd adnoddau’n cael eu diweddaru a’u hychwanegu wrth iddynt gael eu datblygu yn ystod yr ymgyrch ‘Siarad â Fi’.
Mae Afasic yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i helpu plant a phobl ifanc ag anawsterau lleferydd ac iaith, yn ogystal a’u teuluoedd.
Mae SNAP Cymru yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig, neu sydd efallai â’r rhain.
Mae Pwynt Siarad ICAN yn rhoi gwybodaeth a chyngor i rieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol er mwyn iddynt helpu plant i ddatblygu eu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Mae RADLD yn wefan sydd â gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol a theuluoedd sy’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o anhwylder iaith datblygiadol.
Mae gan wefan Speech Link a Language Link adnoddau a syniadau i rieni ac ysgolion i gefnogi sgiliau iaith a lleferydd plant.
Awdurdod Addysg Lleol y Fro (AALl) sy’n gyfrifol am wasanaethau addysg ar draws Bro Morgannwg
Mae Gwasanaethau Dechrau’n Deg y Fro yn darparu cymorth a chyngor ychwanegol i deuluoedd â phlant oed cyn-ysgol ym Mro Morgannwg o fewn yr ardaloedd cod post cymwys.
Rhowch amser iddo yn cynnig tip symarferol a chyngor arbennigol am ddim i bob teulu ledled Cymru.
Plant yng Nghymru yw’r corff ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.
Mae British Stammering Association yn cynnig cymorth a gwybodaeth i’r rhai sydd ag atal dweud a’r rhai sydd mewn cysylltiad â nhw.
Mae cyngor a chymorth ymarferol i rieni ar gael ar eu tudalen “get support – for parents”
Mae SMIRA (Cymdeithas Gwybodaeth ac Ymchwil Mudandod Dethol) yn darparu gwybodaeth ac adnoddau i gefnogi pobl sydd â Mudandod Dethol a’u teuluoedd
Y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yw prif elusen y DU ar gyfer pobl sydd â diagnosis o awtistiaeth a’u teuluoedd
Mae Cymdeithas Syndrom Down yn darparu ystod o wybodaeth a chyngor i unigolion sydd â syndrom Down a’u teuluoedd, yn ogystal â gwybodaeth i weithwyr proffesiynol.
Mae Gweithredu ar Golled Clyw (yr enw masnachu ar gyfer RNID) yn profi cefnogaeth i bobl fyddar a’r rhai sydd â cholled clyw a tinnitus.
Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydai yn gweithio i godi ymwybyddiaeth, cydnabyddiaeth a pharch, a sicrhau mynediad a chyfle cyfartal i bobl fyddar
Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i gymuned pobl ddall a rhannol ddall.
Mae Cerebral Palsy Cymru yn ganolfan driniaeth a hyfforddiant arbenigol, ac yn elusen sy’n ymroddedig i gefnogi plant a theuluoedd y rhai sydd â pharlys yr ymennydd a chyflyrau niwrolegol tebyg.
Mae gan Plant Bach Hapus y BBC lawer o syniadau a chyngor am ddatblygiad plant, gan gynnwys sut i gefnogi sgiliau cyfathrebu eich plentyn.
Mae gan Pecyn Cymorth i Rieni: ANFON y BBC adnoddau, gweithgareddau a chyngor i deuluoedd â phlant sydd ag Anghenion Addysgol Ychwanegol ac Anableddau.
Mae’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol yn darparu ystod o adnoddau i annog rhieni a gofalwyr i siarad mwy â’u plant, yn ogystal a gwybodaeth am lyfrau ar gyfer gwahanol oedranau.
Mae’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol yn darparu cyngor iaith cynnar mewn amrywiaeth o ieithoedd:
Mae’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol hefyd yn darparu gweithgareddau a syniadau ymarferol i rieni plant cyn-ysgol.
Mae Barnardo’s yn elusen sy’n amddiffyn ac yn cefnogi plant a phobl ifanc yn y DU sy’n agored i niwed.
Gall Barnardo’s roi cyngor a chymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc.
Mae’r dolenni hyn yn cael eu darparu at ddibenion gwybodaeth yn unig; nid ydynt yn gyfystyr âc arnodiad na chymeradwyaeth gan Wasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Plant Caerdydd a’r Fro ounrhyw un o gynnyrch, gwasanaeth neu farn gan y sefydliad neu’r unigolion. Nid yw Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Plant Caerdydd a’r Fro yn gyfrifol am gywirdeb, cyfreithlondeb na chynnwys y safle allanol nac am unrhyw dolenni dilynol.
Gellir cysylltu â’n tîm gweinyddol drwy’r cyfeiriad a’r rhif ffôn isod.
Os oes gennych chi neges ar gyfer therapydd penodol, cysylltwch â’n tîm gweinyddol a byddan nhw’n rhoi’r neges i’r therapydd.
Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith Plant
BIP Caerdydd a’r Fro
Llawr 1af, Woodland House
Maes-y-Coed Road
Caerdydd
CF14 4HH
029 2183 6585
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.