Mae fy mhlentyn yn dweud llawer o eiriau ac ymadroddion, ond gall fod yn anodd ei ddeall yn siarad (iaith lafar aneglur)

Mae plant yn dysgu synau trwy wrando ar bobl eraill yn eu hamgylchedd a rhyngweithio â nhw. Mae babanod yn gwrando ar leisiau cyn iddynt gael eu geni ac yn dechrau arbrofi â gwneud synau o’u geni, er enghraifft cŵan, dweud gw-gw, byrlymu a gwichian. Mae’r chwarae hwn â synau yn dod yn preblan sydd, yn ei dro, yn dod yn llif hirach o synau ac yna geiriau cyntaf. Mae’n normal i blant barhau i breblan wrth i’w geiriau cyntaf ddatblygu.

Mum and son laughing. Copyright Children's Speech and Language Therapy, Cardiff and Vale UHB

Pa seiniau llafar dylai fy mhlentyn allu eu dweud?

Mae angen ymarfer i ddysgu sut i ddweud synau’n gywir a’u defnyddio mewn geiriau. Mae rhai plant yn gallu dweud geiriau’n weddol glir pan fyddant yn dechrau siarad, ond bydd angen i blant eraill glywed a dweud geiriau llawer o weithiau cyn daw’r geiriau hynny’n glir.

Mae amrywioldeb mawr yn y ffordd mae seiniau llafar yn datblygu. Mae synau fel ‘p’, ‘b’, ‘m’ fel arfer yn datblygu’n gynharach pan fydd plentyn yn dechrau siarad. Mae synau fel ‘ch’, ‘j’, ‘th’ a ‘r’ yn datblygu’n hwyrach; mae rhai o’r seiniau llafar hyn yn dal i ddatblygu’n normal hyd at 8 oed.

Mae ein Canllaw i Rieni yn rhoi trosolwg cyffredinol o’r drefn y mae plant yn caffael synau, yn gyffredinol (mae hwn yn ganllaw i blant sy’n siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf).

Canllaw i Rieni

Yr oedran mae plant yn caffael synau yn gyffredinol

Pa fathau o wallau y gall plant eu gwneud?

I rai plant, mae dysgu sut i ddweud synau ac yna eu rhoi at ei gilydd yn anodd. Gallant newid rhai synau am rai eraill neu golli synau oddi ar ddiwedd neu ddechrau geiriau. Gall rhai plant efelychu sŵn ar ei ben ei hun, ond ni allant ddefnyddio’r synau hynny mewn geiriau. I’r rhan fwyaf o blant, mae’r synau’n parhau i ddatblygu dros amser.

Yn aml, efallai na fydd plant yn gwybod eu bod yn dweud geiriau’n anghywir ac efallai y byddant yn dod yn rhwystredig pan na all pobl eraill eu deall.

Sut galla’ i helpu?

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi helpu eich plentyn i gyfathrebu’n effeithiol a lleihau ei rwystredigaeth wrth geisio cyfleu ei hun.

Ewch i lawr i’w lefel, edrychwch arno pan fydd yn siarad a gwrandewch.

Os bydd eich plentyn yn dweud gair yn anghywir, dywedwch y gair cywir yn ôl fel bod ganddo fodel clir. Er enghraifft, os bydd eich plentyn yn dweud “bair” yn lle “ffair”, ailadroddwch “ye, ffair”. Peidiwch â chywiro eich plentyn trwy ddweud wrtho fod ei air yn anghywir, gan y gall hyn ei ddrysu; rydyn ni eisiau canmol ei wybodaeth am eiriau hyd yn oed pan fydd synau’n datblygu.
ping.

Os bydd eich plentyn wedi defnyddio brawddeg hir a’ch bod ond yn gallu deall 1 neu 2 o eiriau, ailadroddwch y rhain ac arhoswch. Mae hyn yn rhoi cyfle i’ch plentyn geisio esbonio mewn ffordd arall ac mae’n dangos eich bod yn gwrando.

Peidiwch â gofyn i’ch plentyn ailadrodd geiriau ar eich ôl. Gall hyn arwain at blant yn osgoi siarad neu’n dod yn llai hyderus i roi cynnig ar eiriau newydd.

Ceisiwch roi dau ddewis ar gyfer pethau rydych chi’n gwybod bod eich plentyn yn eu hoffi. Fel hynny, gall ailadrodd un neu ddau air yn unig fel eich bod yn deall.

Peidiwch â chymryd arni eich bod yn deall. Dywedwch wrth eich plentyn os nad ydych yn gallu ei ddeall. Rhowch ganmoliaeth iddo am eich helpu os bydd yn dal ati. Os yw eich plentyn yn ymwybodol o’i leferydd, gall helpu i roi’r bai arnoch chi’ch hun e.e. “dydy fy nghlustiau ddim yn gweithio’n dda iawn heddiw”.

Gofynnwch i’ch plentyn ddangos i chi drwy fynd â chi at beth sydd ei eisiau arno neu bwyntio ato.

Defnyddiwch ystumiau neu meimiwch pan fyddwch yn siarad â’ch plentyn ac anogwch eich plentyn i wneud yr un peth. Gall hyn roi cliwiau ychwanegol i chi pan fydd angen i chi weithio allan beth mae’ch plentyn yn ei ddweud.

Pan fydd plentyn yn dechrau gwneud synau, gall defnyddio dymi yn rheolaidd effeithio ar breblan ac arbrofi â synau.

Os yw eich plentyn dros flwydd oed, cadwch ddymi ar gyfer amser gwely ac amser cyntun ac atgoffwch eich plentyn i’w dynnu pan fydd yn ceisio siarad neu wneud synau.

Os yw eich plentyn dan 12 mis oed, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael digon o amser heb ddymi er mwyn iddo allu arbrofi a chwarae â synau i ddatblygu preblan.

Gan fod plant yn aml yn anymwybodol eu bod yn newid rhai seiniau llafar wrth iddynt siarad, gall fod yn ddefnyddiol i chi gynyddu eu hymwybyddiaeth o synau mewn geiriau a strwythurau geiriau yn addfwyn cyn canolbwyntio ar synau penodol.

Gallwch chi gefnogi ymwybyddiaeth eich plentyn o strwythurau geiriau a’r synau mewn geiriau trwy roi cynnig ar weithgareddau Peledu â Seiniau (Sound Bombardment) a Chlapio Silliau.

Fel rhieni, chi sy’n adnabod eich plentyn orau! Rydych chi’n gwybod pa weithgareddau mae’n ei hoffi, beth mae’n hoffi chwarae ag ef a beth sy’n ei wneud yn hapus.

Trwy gynnwys strategaethau syml yn eich gweithgareddau bob dydd yn y cartref, gallwch gynorthwyo eich plentyn i ddatblygu seiniau llafar.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n poeni?

Meddyliwch am sut mae’ch plentyn yn siarad ar hyn o bryd

- Pa synau y mae’n cael trafferth eu dweud neu eu defnyddio ar hyn o bryd?
- A all y rhan fwyaf o bobl ddeall beth mae’n ceisio ei ddweud?
- Sut mae’n ymateb os na all pobl eraill ei ddeall?
- Beth ydych chi wedi rhoi cynnig arno hyd yn hyn sy’n helpu eich plentyn i fynegi ei hun?

Rhowch gynnig ar ddilyn y cyngor ar y dudalen hon am fis neu ddau.

Gall gymryd amser i chi a’ch plentyn ddod i arfer â gweithgareddau newydd neu ffyrdd newydd o ymateb i’ch gilydd.

Ar ôl rhoi cynnig ar y cyngor a’r gweithgareddau am fis neu ddau, os ydych chi’n poeni am seiniau llafar eich plentyn o hyd...

A yw eich plentyn wedi dechrau yn yr ysgol ar sail amser llawn?

Nac ydy.

Os yw eich plentyn o oedran cyn-ysgol (heb ddechrau yn yr ysgol ar sail amser llawn hyd yn hyn) a’ch bod yn byw yn ardal Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â’n gwasanaeth ar 029 2183 6585 i ofyn am fwy o gymorth.

Nac ydy.

Os yw eich plentyn o oedran cyn-ysgol (heb ddechrau yn yr ysgol ar sail amser llawn hyd yn hyn) a’ch bod yn byw yn ardal Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â’n gwasanaeth ar 029 2183 6585 i ofyn am fwy o gymorth.

Ydy.

Dylech drafod eich pryderon ag athro/athrawes eich plentyn (neu’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn eich ysgol). Gallai ysgolion gynnig rhywfaint o gymorth ychwanegol i helpu eich plentyn. Os ydych chi a’r ysgol yn poeni am seiniau llafar eich plentyn o hyd, rydym yn argymell bod yr ysgol yn gwneud atgyfeiriad i’n gwasanaeth, gan y gallai gynnwys gwybodaeth am sut mae ei anawsterau â seiniau llafar yn effeithio ar ddysgu.

Ydy.

Dylech drafod eich pryderon ag athro/athrawes eich plentyn (neu’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn eich ysgol). Gallai ysgolion gynnig rhywfaint o gymorth ychwanegol i helpu eich plentyn. Os ydych chi a’r ysgol yn poeni am seiniau llafar eich plentyn o hyd, rydym yn argymell bod yr ysgol yn gwneud atgyfeiriad i’n gwasanaeth, gan y gallai gynnwys gwybodaeth am sut mae ei anawsterau â seiniau llafar yn effeithio ar ddysgu.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content