Mae fy mhlentyn yn cael trafferth â’i glyw
Os ydych chi’n poeni am glyw eich plentyn, dylech siarad â’ch Ymwelydd Iechyd neu’ch meddyg teulu i ofyn am atgyfeiriad i’r Adran Awdioleg i gael prawf clyw.

Gall plant gael trafferthion â’u clyw am nifer o resymau. Gall y trafferthion hyn fod yn rhai dros dro oherwydd salwch neu glust ludiog neu gall bara’n hirach, er enghraifft mewn anawsterau clyw synwyrnerfol, lle yr effeithiwyd ar y nerfau (mae’r math hwn o fyddardod yn barhaol a byddwch fel arfer yn cael diagnosis ar ôl y Prawf Clyw i Fabanod Newyddanedig).
Gall plant gael trafferth gwrando ar beth sy’n cael ei ddweud a’i brosesu am nifer o resymau, gan gynnwys blinder, sŵn cefndir, sgiliau canolbwyntio sy’n datblygu neu anawsterau iaith.
Mae sgiliau canolbwyntio a gwrando yn datblygu dros gyfnod. Mae’n normal i blant (yn enwedig plant iau) beidio â sylweddoli bod rhywun yn siarad â nhw os ydynt yn canolbwyntio ar rywbeth neu os bydd rhywbeth yn tynnu eu sylw. Mae’n annhebygol eu bod yn eich anwybyddu!
Beth allech chi sylwi arno:
- dim ymateb i synau annisgwyl
- dim ymateb pan fydd rhywun yn siarad â nhw
- angen troi’r sain ar y teledu yn uwch
- tynnu neu rwbio eu clustiau
- trafferthion â’u cydbwysedd
- anawsterau iaith a/neu leferydd
Awgrymiadau i’w gwneud yn haws i’ch plentyn eich clywed
- Lleihewch unrhyw sŵn yn y cefndir, fel y teledu neu’r peiriant golchi, i’w gwneud yn haws i’ch plentyn eich clywed a chanolbwyntio ar beth rydych chi’n ei ddweud.
- Eisteddwch wyneb-yn-wyneb fel gall eich plentyn weld eich wyneb a gweld beth rydych chi’n edrych arno.
- Gwnewch yn siŵr nad yw eich wyneb dan gysgod. Gwnewch yn siŵr y gall eich plentyn weld y mynegiant ar eich wyneb a’ch ceg yn symud. Meddyliwch am le mae’r golau’n dod ohono, er enghraifft efallai y bydd angen i chi symud os yw’r ffenestr neu’r lamp y tu ôl i chi.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn dal sylw eich plentyn cyn siarad ag ef e.e. trwy gyffwrdd ei law neu fraich neu alw ei enw.
- Peidiwch â gweiddi. Gall gweiddi ystumio’r geiriau a all ei gwneud yn anoddach eich deall. Gallai gweiddi wneud i’ch plentyn feddwl eich bod yn grac ag ef neu ei fod wedi gwneud rhywbeth o’i le.
