Mae datblygiad corfforol yn cynnwys cerrig milltir fel, dysgu rholio, eistedd, cropian a sefyll. Mae’n bwysig cydnabod bod pob plentyn yn datblygu ar gyflymder gwahanol. Mae’r gweithgareddau a fydd yn hyrwyddo datblygiad yn cynnwys, digon o chwarae llawr, gweithgareddau awyr agored a bod mewn amgylcheddau ysgogol.
Os yw eich plentyn yn cael trafferth gyda cherrig milltir datblygiadol, efallai y bydd y wybodaeth a’r dolenni isod yn ddefnyddiol i chi a’ch plentyn.
Os yw'ch plentyn yn cael anhawster gyda symudiadau corff cyfan, megis hopian, rhedeg neu sgiliau cydsymud â’r dwylo, mae gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc rywfaint o arweiniad ar helpu i ddatblygu sgiliau echddygol bras eich plentyn.
Mae sgiliau echddygol manwl yn cynnwys y cyhyrau bach sy'n gweithio gyda'r ymennydd a'r system nerfol i reoli symudiadau mewn ardaloedd fel y dwylo, y bysedd, gwefusau, y tafod a'r llygaid. Drwy ddatblygu'r sgiliau echddygol manwl hyn, bydd eich plentyn yn gallu cyflawni sgiliau fel bwyta, ysgrifennu, trin gwrthrychau a gwisgo.
Gellir dod o hyd i gyngor ynghylch sut i annog sgiliau fel defnyddio cyllyll a ffyrc, llawysgrifen a gwisgo ar y tudalennau Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc.
O gerdded ar flaenau’r traed, i gerdded â’r traed tuag i mewn a cherdded â’r traed tuag allan, a thraed gwastad, mae Podiatreg Plant a Ffisiotherapi Plant yn rhoi arweiniad ar rai o'r cyflyrau cerddediad mwyaf cyffredin.
Gellir atgyfeirio plant at ffisiotherapi os nad ydynt yn cyrraedd eu cerrig milltir echddygol. Os ydych chi’n aros i gael eich gweld gan yr adran Ffisiotherapi, byddem yn eich annog i ddarllen yr adnoddau isod ac ymarfer y cyngor sy’n adlewyrchu galluoedd eich plentyn orau ar eu cam nhw.
Sylwch mai canllaw yn unig yw’r ystodau oedran – mae pob plentyn yn datblygu ar wahanol gyflymder.
Cynhyrchwyd gan y Gymdeithas Ffisiotherapyddion Siartredig Pediatrig.
Taflen gan EiSMART
Taflen gan EiSMART
Cynhyrchwyd gan y Gymdeithas Ffisiotherapyddion Siartredig Pediatrig.
Taflen gan EiSMART
Taflen gan EiSMART
Taflen gan EiSMART
Taflen gan EiSMART
Cynhyrchwyd gan y Gymdeithas Ffisiotherapyddion Siartredig Pediatrig.
Taflen gan EiSMART
Taflen gan EiSMART
Mae’n bwysig cofio na fydd pob plentyn yn dysgu symud yn y ffordd glasurol. Er enghraifft, mae llawer o blant yn symud ar eu pen-olau ac nid ydynt yn cropian ac yn mynd yn syth i sefyll a cherdded y ffordd honno.
Gall ffisiotherapydd asesu eich plentyn i helpu i ddeall y rheswm dros ei oedi. Bydd y rhesymau dros hyn yn unigol iawn i’ch plentyn. Fodd bynnag, gyda phrofiad, mae rhai rhesymau cyffredin a all gyfrannu at gyflwyniad eich plentyn. Mae’r rhain yn cynnwys:
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.