Strôc
Mae strôc yn gyflwr meddygol difrifol sy’n peryglu bywyd. Mae’n digwydd pan mae’r cyflenwad gwaed i ran o’r ymennydd yn cael ei darfu.
Mae 2 brif achos o strôc:
- Isgemig – lle mae’r cyflenwad gwaed yn cael ei atal oherwydd ceulad gwaed, sy’n cyfrif am 85% o’r holl achosion
- Gwaedlifol – lle mae pibell waed wan sy’n cyflenwi’r ymennydd yn rhwygo
Gwybodaeth Bwysig
Mae strôc yn argyfwng meddygol ac mae triniaeth frys yn hanfodol.
Os gewch chi triniaeth mor gyflym â phosib, y lleiaf o ddifrod fydd yn digwydd ac felly bydd llai o anabledd o ganlyniad i’r strôc.
Os ydych chi’n amau eich bod chi neu rywun arall yn cael strôc, ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am ambiwlans.
Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, os credir bod y claf yn cael strôc a’i fod o fewn 4 awr a hanner i ddechrau’r symptomau, mae potensial i roi cyffur sy’n gwasgaru clotiau os yw’r strôc yn isgemig.
Ar hyn o bryd, Ysbyty Athrofal Cymru yw’r unig ysbyty yng Nghymru lle gellir tynnu clotiau gwaed fel triniaeth feddygol. Pe bai angen niwrolawdriniaeth, mae gennym hefyd arbenigwyr a chyfleusterau ar y safle i reoli hyn os yw’n briodol. Mae uned strôc acíwt bwrpasol yn Ysbyty Athrofaol Cymru lle bydd cleifion yn derbyn asesiadau cychwynnol, sefydlogi cyflwr a chynllunio ar gamau nesaf eu druniath.
Efallai y bydd rhai yn gallu cael eu rhyddhau adref gyda chymorth Tim Cefnogaeth Gynnar Stroc, efallai y bydd angen trosglwyddo triniaeth eraill i’r Ganolfan Adsefydlu Strôc arbenigol yn Ysbyty Prifysgol Llandochau.
Bydd yr Uned Strôc Acíwt a thim SRC yn cynorthwyo’r cleifion ar ei daith adsefydlu, ond mewn rhai achosion mae angen cyfnod hirach o adsefydlu cleifion yn yr ysbyty.
Mae llwybrau gofal i gleifion ar gyfer strôc a dyma pryd y gallai trosglwyddo i’r uned adsefydlu yn Ysbyty Prifysgol Llandochau fod yn fuddiol. Yn yr uned hon, bydd y tîm yn gweithio i gynorthwyo’r claf i ddysgu sut i reoli elfennau o’i gorff ac ail-ennill gweithredoedd y corff a gollir oherwydd y niwed i’r ymennydd a achosir gan y strôc.
Gydag arweiniad y tîm amlddisgyblaethol gall y claf gweithredu ei hun i’r broses hon gyda chefnogaeth y ddisgyblaethau priodol. Bydd taith adsefydlu pob claf yn wahanol ac yn cael ei ddylanwadu gan faint y strôc a hefyd gan allu’r unigolyn i gymryd rhan yn y broses adsefydlu.
Gellir gwneud penderfyniadau am addasu neu newid eu hamgylchiadau byw i helpu chi i fynd adref o’r ysbyty i barhau ar eich taith adfer ar ôl strôc.
Tîm aml-broffesiynol sy’n darparu adsefydlu yn y gymuned yn dilyn strôc newydd. Mae’r tîm hwn yn derbyn atgyfeiriadau gan strôc acíwt, adsefydlu strôc a gwasanaethau cymunedol.
Mae’r tîm yn canolbwyntio ar ddarparu adsefydlu trwy hunanreolaeth ac yn helpu i gynorthwyo cleientiaid i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hadsefydlu a’u gofal.
Mae hwn yn wasanaeth â therfyn amser.
Manylion cyswllt
Gofal Strôc Acíwt Ysbyty Athrofaol Cymru Ffon: 02920743783
Canolfan Adsefydlu Strôc – Lllandochau Ffon: 02920 715929 / 5992
Tim Cefnogaeth Gynnar Strôc: 02921826695
Cardiffandvale.Esd@wales.nhs.uk