Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Poen clun

Diagram of the hip joint with labelling of different bones and joints / Diagram o gymal y glun gyda’r esgyrn a’r cymalau gwahanol wedi’u labelu.

Sut mae’r glun yn gweithio?

Mae eich clun yn gymal sefydlog a chryf iawn a elwir yn gymal pelen a chrau. Y rheswm am hyn yw bod top asgwrn y glun wedi’i siapio fel pêl. Mae’r ‘bêl’ hon yn eistedd y tu mewn i soced wag yn eich pelfis. Cymalau pelen a chrau sy’n rhoi’r mwyaf o symudiad o’r holl wahanol fathau o gymalau yn y corff.

Mae cymal y glun yn cael ei ddal gyda’i gilydd gan orchudd o gyhyrau sydd cael eu cysylltu wrth yr esgyrn gan gordiau cryf o’r enw tendonau.

Mae’r cyhyrau a’r tendonau hyn yn ffurfio capsiwl o amgylch y cymal ac yn cefnogi ei symudiadau. Maen nhw’n helpu i symud y cymal sy’n cefnogi’ch coes a symudiad rhan uchaf eich corff.

Y tu mewn i’r capsiwl mae’r synofiwm, sy’n iro’r cymal gyda hylif synofaidd ac yn cadw’r cartilag yn iach. Mae’r cartilag yn eistedd rhwng esgyrn cymal eich clun er mwyn caniatáu i’r cymal symud yn llyfn ac mae’n lleihau unrhyw effaith pan fyddwch yn cerdded neu’n symud eich clun.

Gan fod cymal y glun yn ddwfn iawn ac mae llawer o gefnogaeth gan gyhyrau, mae’r cymal yn sefydlog iawn ac mae’n anarferol i’r glun ddod o’i lle, hyd yn oed ar ôl anaf trawiad nerthol.

Achosion Poen Clun

Y rhan fwyaf o’r amser mae esboniad syml iawn am boen clun.

  • Os ydych wedi’i gor-wneud hi wrth wneud ymarfer corff, mae’r boen fel arfer yn cael ei achosi gan feinweoedd meddal, fel tendonau, wedi’u straenio neu lidus, ac mae’n aml yn clirio o fewn ychydig ddyddiau i wythnosau.
  • Wrth i chi fynd yn hŷn, gall poen yn eich clun waethygu bob hyn a hyn, yn aml heb reswm. Os oes gennych broblem gyda chymal eich clun, efallai y byddwch yn teimlo poen yn yr afl, i lawr blaen y goes, ac yn y pen-glin. Weithiau poen pen-glin yw’r unig arwydd o broblem glun – gelwir hyn yn boen dargyfeiriedig neu boen rheiddiol ac mae’n weddol gyffredin.
  • Efallai y byddwch chi’n teimlo poen ar ochr allanol eich clun. Gelwir hyn yn boen clun ochrol ac fel arfer mae’n cael ei achosi gan dendonau wedi’u gorddefnyddio neu dendonau llidus (gluteal tendinopathy). Weithiau gellir teimlo poen yn ochr allanol eich pen-ôl hefyd, er y gall hyn gael ei achosi gan broblemau yn rhan isaf eich cefn. Cliciwch yma i gael cyngor ar sut i reoli poen clun ochrol.
  • Os ydych wedi cael clun newydd neu sgriw clun deinamig o’r blaen (plât metel ar gyfer clun sydd wedi’i thorri) ac wedi datblygu poen clun newydd neu anarferol sawl blwyddyn ar ôl cael y llawdriniaeth, trefnwch apwyntiad i drafod hyn gyda’ch meddyg teulu.

Os ydych wedi cwympo

Os ydych chi wedi cwympo, wedi anafu’ch clun ac yn ei chael hi’n anodd rhoi pwysau ar eich coes efallai y bydd angen i chi weld meddyg.

Dylech ffonio 111 ar frys i drefnu slot apwyntiad yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys, gan fod toriadau’r glun yn gyffredin iawn, yn enwedig mewn pobl oedrannus sydd ag Osteoporosis.

Mae Osteoporosis yn gwneud esgyrn yn llai trwchus a bregus, fel eu bod yn torri’n haws.

Hunangymorth

Mae cadw’n heini yn rhan hanfodol o’ch triniaeth a’ch adferiad a dyma’r peth gorau y gallwch ei wneud ar gyfer eich iechyd.

  • atal y broblem rhag digwydd eto
  • cynnal eich lefelau ffitrwydd presennol – hyd yn oed os oes rhaid i chi newid yr hyn rydych yn ei wneud fel arfer, mae unrhyw weithgaredd yn well na dim
  • cadw eich cyhyrau a’ch cymalau eraill yn gryf ac yn hyblyg
  • cynnal pwysau corff iach

Argymhellir eich bod yn aros yn y gwaith neu’n dychwelyd i’r gwaith cyn gynted â phosibl yn ystod eich adferiad. Nid oes angen i chi fod yn rhydd o boen a symptomau i ddychwelyd i’r gwaith.

  • Gorffwys eich clun ond ceisiwch osgoi cyfnodau hir o beidio â symud o gwbl
  • Symud eich clun yn bwyllog am 10 i 20 eiliad bob awr pan fyddwch yn effro
  • Os oes gennych anaf i’r cyhyrau neu’r ligament, mae’r fideo hon  “The Running Clinic” yn gallu helpu cefnogi a rheoli eich adferiad.

  • Dychwelwch yn araf i weithgarwch arferol
  • Gwnewch beth bynnag y byddech fel arfer yn ei wneud gan gynnwys aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith os yw’n bosibl
  • Ceisiwch osgoi chwaraeon neu godi pwysau trwm nes bod gennych lai o anesmwythdra a’ch bod yn gallu symud yn well. Cofiwch gynhesu’n llawn cyn i chi ddechrau gweithgareddau chwaraeon

Os hoffech gael cyngor am feddyginiaeth neu ddulliau eraill o liniaru poen i’ch helpu i reoli eich poen yn well siaradwch â’ch Fferyllydd Cymunedol.

Gall meddyginiaeth poen helpu i leihau poen a’ch helpu i symud yn fwy cyfforddus, a all eich helpu i wella.

Wrth gymryd meddyginiaeth poen mae’n bwysig ei gymryd yn rheolaidd.

Diagnosis diweddar o Osteoarthritis y Clun?

Efallai y bydd rhaglen clun Escape Pain yn eich helpu i reoli cyflwr eich clun.

Cliciwch i gael gwybod mwy amdani ac i hunanatgyfeirio at y rhaglen 

Os ydych chi’n aros am lawdriniaeth gymal newydd y glun neu’r pen-glin, gweler y dudalen ganlynol:

Sut i baratoi ar gyfer Llawdriniaeth am ragor o wybodaeth.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content