Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

BALANCE

BALANCE yw: 
Cydbwysedd a Dysgu am Faeth, Newid ac Ymarfer (Balance And Learning About Nutrition, Change & Exercise).

Mae BALANCE yn rhaglen rheoli ffordd o fyw sydd â’r nod o rymuso pobl sydd â chlefyd yr arennau, derbynwyr a rhoddwyr trawsblaniad aren i wneud newidiadau cadarnhaol a pharhaol er mwyn sicrhau pwysau iach a gwella’u ffitrwydd corfforol a meddyliol.

Efallai y bydd eich llawfeddyg / nyrs arbenigol yn eich cynghori i golli pwysau a / neu gynyddu eich ffitrwydd cyn llawdriniaeth.

Cyn trawsblaniad aren neu lawdriniaeth i roi’r arennau gallwn:

  • Eich cefnogi i gyflawni a chynnal pwysau iach ar gyfer llawdriniaeth drwy roi cyngor a gwybodaeth am bob agwedd ar fwyd a deiet
  • Eich cefnogi i wella eich ffitrwydd corfforol drwy deilwra ymarfer corff sy’n addas i chi, eich cyflyrau meddygol a’ch amgylchedd

Os ydych wedi cael trawsblaniad, gall fod yn anodd cynnal pwysau iach, deiet, ffordd o fyw neu lefel ffitrwydd. Mae’n bwysig iawn i hyd oes eich aren newydd eich bod mor iach â phosibl.

Ar ôl trawsblaniad aren neu lawdriniaeth i roi aren gallwn:

  • Eich cefnogi i gynnal pwysau delfrydol ar ôl eich llawdriniaeth ar gyfer eich iechyd hirdymor chi a’ch aren
  • Rhoi cyngor ar sut a phryd i wneud ymarfer corff a chynyddu gweithgarwch ar ôl llawdriniaeth
  • Eich cefnogi i gadw’n iach ar ôl cael eich trawsblaniad

Pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau ar ddulliau dialysis, mae rhai opsiynau lle mae pwysau iach a ffitrwydd / cryfder da yn arbennig o bwysig. Wrth wneud y dewisiadau hyn gall BALANCE eich helpu i weithio tuag at y math o ddialysis y byddai’n well gennych drwy wella’ch iechyd, eich pwysau a’ch ffitrwydd cyffredinol.

Ein nod yw cefnogi eich llesiant drwy gydol eich taith.

  • Jane Dursley yw ein Deietegydd Arennol a Thrawsblaniadau Arbenigol; mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio gyda phobl â chlefyd Arennol. Mae Jane yn darparu addysg a chymorth gyda’ch deiet a’ch maeth gan ystyried unrhyw gyflyrau iechyd sydd gennych.
  • Louise Kennedy yw ein Ffisiotherapydd Arennol a Thrawsblaniadau Arbenigol sydd wedi treulio blynyddoedd lawer yn gweithio o fewn yr arbenigedd yng Nghaerdydd a Llundain. Dechreuodd Louise y rhaglen BALANCE yng Nghaerdydd yn 2011. Bydd Louise yn eich helpu i fod yn fwy egnïol yn gorfforol, gan ystyried eich iechyd corfforol, eich hanes meddygol a’ch lefel bresennol o allu.
  • Liz Davies yw ein Cynorthwyydd BALANCE sy’n sicrhau bod y rhaglen yn rhedeg yn esmwyth drwy brosesu atgyfeiriadau, gwahoddiadau ac archebion y rhaglen ac ateb ymholiadau. Mae’n helpu i drefnu ein sesiynau rhithwir ac mae hefyd yn darparu cymorth yn ystod ein grwpiau wyneb yn wyneb.
  • Mae gennym Uwch Ffisiotherapydd Cylchdro fel ein Ffisiotherapydd BALANCE. Mae ganddynt brofiad mewn Arennau a Thrawsblaniadau, ymhlith amrywiaeth o ddisgyblaethau eraill. Byddant yn dod i’ch adnabod ar sail un i un i ddarganfod beth rydych chi’n ei fwynhau ac yn rhoi cymorth ac anogaeth i chi ar sut i fod yn fwy egnïol.
  • Misbah Gladwyn-Khan yw ein Seicolegydd Clinigol Arennol a Thrawsblaniadau. Bydd Misbah yn eich helpu i ystyried sut y gallai eich meddwl, eich emosiynau a’ch dulliau ymdopi ddylanwadu ar eich arferion. Bydd Misbah hefyd yn siarad â chi am sut y mae’n bosibl ymateb i sefyllfaoedd yn wahanol er mwyn datblygu ffordd iachach o fyw.

Rhaglen 9 wythnos unwaith yr wythnos sy’n rhedeg naill ai ar-lein drwy Zoom, neu wyneb yn wyneb mewn lleoliadau cymunedol fel Canolfannau Hamdden.

BALANCE Rhithwir

  • Byddwch yn derbyn fideo wythnosol yn cyflwyno pynciau’r wythnos
  • Sesiwn drafod fywiog drwy Zoom
  • Ymgynghoriad ffôn un-i-un gyda’r ffisiotherapydd i osod nodau gweithgaredd
  • Adnoddau a dolenni defnyddiol wedi’u e-bostio’n syth atoch
  • Mynediad at ein Deietegydd a Seicolegydd yn ôl y gofyn

BALANCE byw syn cael ei redeg gan ein Deietegydd, Ffisiotherapydd, Seicolegydd a Chynorthwyydd Therapi. 

  • Sesiwn dysgu ac yna drafodaeth fywiog ar bynciau’r wythnos
  • Dosbarth ymarfer arddull cylched wedi’i deilwra i’ch gallu
  • Cymorth i barhau i ymarfer corff yn eich canolfan hamdden leol
  • Llyfr gwybodaeth BALANCE
  • Llyfryn cyngor ar fwyta’n iach
  • Presgripsiwn egni unigol a chymorth gyda hunan-fonitro yn ystod eich taith colli / cynnal pwysau
  • Cynllun ymarfer corff wedi’i deilwra i’ch gallu a’ch amgylchedd
  • Cefnogaeth gan gymheiriaid a thrafodaeth fywiog ar amrywiaeth o bynciau gwahanol dan arweiniad yr arbenigwyr Dieteg a Ffisiotherapi
  • Mynediad uniongyrchol at arbenigwyr ac adnoddau

Gall unrhyw weithiwr proffesiynol o’r timau neffroleg neu drawsblannu eich cyfeirio, gofynnwch i’ch Darparwr Gofal Iechyd.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content