Mae teimlo blinder yn ran arferol o wella ar ôl COVID-19. Gall amrywio mewn difrifoldeb o’r ysgafn I’r difrifol. Blinder yw’r term meddygol a ddefnyddir i ddisgrifio teimlo’n flinedig ac yn llesg neu wrth deimlo bod diffyg egni gyda chi. Nid yw yr un peth â theimlo’n gysglyd. Os ydych chi’n dioddef o flinder, yn gyffredinol nid oes gennych unrhyw gymhelliant neu egni. Gall bod yn flinedig neu’n gysglyd fod yn un symptom o flinder, ond nid o reidrwydd yr un peth.
Mae blinder yn debygol o barhau am gyfnod ar ôl i’r haint glirio.
Gall blinder beri i chi gysgu mwy, teimlo’n simsan ar eich traed, gwneud hi’n anodd sefyll am gyfnodau hir, yn ogystal ag effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio ynghyd ag amharu ar eich cof. Efallai bydd eich symptomau blinder yn gwaethygu oherwydd Post Exertional Malaise, (anhwylder ôl-ymarfer) sydd hefyd yn cael ei alw’n Post Exertional Symptom Exacerbation (gwaethygu symptomau ar ôl ymarfer corff).
Bryd hynny mae gweithgarwch corfforol, gwybyddol, emosiynol neu gymdeithasol yn gallu gwaethygu symptomau. Mae’r symptomau yn gallu gwaethygu ar unwaith neu 24-72 awr ar ôl y gweithgarwch.
Os ydych chi’n meddwl fod blinder yn broblem I chi , mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol wedi cynhyrchu canllawiau defnyddiol ac ymarferol ar sut y gallwch reoli blinder ar ôl feirws COVID-19, a sut i arbed egni.
Os ydych chi’n teimlo’n orbryderus, wedi eich gorlethu, neu’n ei chael hi’n anodd ymdopi, cysylltwch â’ch meddyg teulu, sydd yn medru eich cyfeirio at y gweithiwr gofal iechyd perthnasol.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.