Ap Adferiad COVID
Mae grŵp iechyd anadlol GIG Cymru wedi datblygu ap Adferiad COVID ar ran Llywodraeth Cymru fel rhan o’r cymorth ehangach sydd ar gael i bobl sy’n dioddef o effeithiau tymor hwy COVID-19.
Gyda mwy na 100 o fideos a dolenni llawn cyngor, gall defnyddwyr yr ap gofnodi eu symptomau, gweld cynnydd a dysgu sut i reoli eu cyflwr gartref gyda chymorth. Mae’n cynnwys cyngor gan therapyddion, seicolegwyr, deietegwyr ac ymgynghorwyr.
Cafodd yr ap ei ddatblygu fel rhan o’n gwasanaethau cymorth ehangach i bobl sy’n profi effeithiau tymor hwy coronafeirws. Mae’n cynnig offeryn pwrpasol a hyfforddwr personol sy’n eich helpu ar y daith i wella, gan roi llwybr adferiad clir i chi.
Lawrlwythwch yr ap adferiad COVID
Mae’r ap Adferiad COVID ar gael i bawb yma:
- App Store ar gyfer dyfeisiau Apple
- Google Play Store ar gyfer Android
Ffoniwch 999 os ydych chi’n profi unrhyw symptomau sy’n bygwth bywyd neu cysylltwch â’r Gwasanaeth coronafeirws ar-lein 111 neu eich meddyg teulu os ydych chi’n teimlo nad yw eich symptomau’n gwella neu os byddwch angen cyngor pellach.