Datblygiad Plant a Seicoleg Iechyd
Mae gwasanaethau Seicoleg Plant yn dod o dan yr ambarél mwy o wasanaethau o’r enw Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc ac Iechyd Teuluol.
Mae Gwasanaethau Seicoleg Cymunedol Plant yn darparu ystod eang o wasanaethau ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, ac ar draws y gymuned, gan gynnwys ysgolion.
Rydym yn cyfarfod â phobl ifanc (dan ddeunaw oed) a’u teuluoedd i helpu gydag ystod o brofiadau. Rydym yn darparu gofal integredig o ansawdd uchel i blant ag anableddau ac anghenion cymhleth, y rhai ag anawsterau datblygiadol, anawsterau ymddygiadol a lles emosiynol a phryderon iechyd meddwl, yn ogystal â phlant a phobl ifanc mewn amgylchiadau arbennig fel y rhai mewn gofal.
Rydym yn cynnig hyfforddiant a chymorth i ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â bywydau plant a phobl ifanc (e.e. gweithwyr iechyd proffesiynol neu weithwyr cymdeithasol).
Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth yn Ysbyty Arch Noa i blant a theuluoedd sydd ag anghenion iechyd corfforol ac sy’n mynychu’r ysbyty.
Rhestr o Wasanaethau Seicoleg Plant:
Os ydych mewn argyfwng ac angen cymorth ar unwaith! Dilynwch y ddolen isod os gwelwch yn dda: