Mae’r gwddf yn rhan o’ch asgwrn cefn. Mae’r asgwrn cefn yn cynnwys 24 o esgyrn o’r enw fertebrau, un yn eistedd ar ben y llall. Y gwddf yw 7 asgwrn uchaf yr asgwrn cefn. Mae gan y fertebrau ddisgiau rhyngddynt a llawer o ewynnau a chyhyrau cryf o’u cwmpas i’w cefnogi ac i’ch galluogi i symud.
Ar lefel pob disg, mae gwreiddiau nerfol yn deillio o’r cord asgwrn cefn ac yn cysylltu â’r cyhyrau, y meinweoedd a’r organau.
Wrth i chi dyfu’n hŷn, mae strwythurau eich asgwrn cefn yn parhau’n gryf, ond nid yw’n anarferol i’ch gwddf fynd yn anhyblyg wrth i chi fynd yn hŷn.
Mae poen gwddf yn broblem gyffredin, gyda’r rhan fwyaf o bobl yn dioddef o boen gwddf ar ryw adeg yn eu bywydau, a gall ddigwydd eto dros amser.
Yn y rhan fwyaf o achosion nid yw’n golygu eich bod wedi gwneud niwed i’ch gwddf mewn gwirionedd, fel arfer nid yw’n ddifrifol ac yn fwyaf aml mae’n lleddfu ar ei ben ei hun neu gydag ymarfer corff syml o fewn ychydig ddyddiau. Mae bron pob poen gwddf yn dechrau pylu o fewn pythefnos ac yn setlo o fewn chwe wythnos.
Os nad yw’r boen yn gwella, gofynnwch am gyngor pellach gan eich Meddyg Teulu.
Os yw’n broblem newydd, yn aml nid oes angen i chi ofyn am gyngor gan Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol.
Nid oes angen pelydrau-X, sganiau a thriniaeth fel arfer.
Os byddwch yn profi unrhyw un o’r rhain, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu neu CAV 24/7 ar y rhif canlynol: 0300 102 0247 neu ewch i Wefan CAV 24/7 i drefnu slot apwyntiad yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys.
Gwyliwch y fideo hwn ar sut i weithio wrth eich pwysau wrth wneud ymarfer corff cyn dechrau’r ymarferion.
Os ydych chi’n profi poen sylweddol wrth wneud gweithgareddau’r fideo, rhowch y gorau iddo a gofynnwch am gyngor gan eich meddyg teulu.
Y aml, gall cadw’ch gwddf yn symud ac ymestyn eich gwddf yn araf deg helpu gydag anesmwythdra.
Cysylltiadau ymarfer corff:
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.