Mae pandemig COVID-19 wedi arwain at lawer o newidiadau yn y gweithle, gyda llawer o bobl yn gweithio gartref erbyn hyn. O ganlyniad, mae rhai ohonom yn cael ein hunain mewn ystumiau lletchwith, yn eistedd yn wargrwm dros liniaduron ar soffas neu hyd yn oed welyau.
Ergonomeg yw’r astudiaeth o sut mae pobl yn rhyngweithio â systemau ffisegol a’r amgylchedd: er enghraifft sut rydym yn eistedd wrth ein desgiau am wyth awr y dydd yn y gwaith. Os na wnawn hyn yn iawn, gall arwain at broblemau corfforol a phoen.
Mae arferion da a gwelliannau ergonomig y gallwch eu gwneud i’ch amgylchedd gwaith boed hynny mewn swyddfa neu gartref a all leihau’r siawns y byddwch yn profi poen ac anghysur.
Mae’r fideo canlynol yn rhoi cyngor ac awgrymiadau gan ein Ffisiotherapyddion Iechyd Galwedigaethol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gartref neu mewn swyddfa.