Podiatreg Plant
Mae Podiatryddion plant yn asesu strwythur, gweithrediad a chynnydd datblygiadol y traed a’r coesau. Gall hyn gynnwys pryderon ynghylch namau, sy’n effeithio ar gyfranogiad a lles.
Mae arweiniad yn cael ei roi ar gerrig milltir arferol o ran cerddediad, gweithgarwch, esgidiau, ymarferion a rheolaeth orthotig (mewnwadnau) yn ôl yr angen.

Byddwn yn cydweithio â chi i’ch helpu i wella iechyd traed eich plentyn
Mae ein tîm o Bodiatryddion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi rhoi gwybodaeth a chyngor defnyddiol at ei gilydd ar gyflyrau traed plant a’u hachosion, symptomau a thriniaeth, yn ogystal ag ymarferion y gallwch chi eu gwneud gartref.
Cyn cysylltu â’r gwasanaeth Podiatreg Plant neu yn y cyfnod cyn gweld Podiatrydd, rydym yn argymell darganfod beth gallwch chi a’ch plentyn ei wneud i helpu i ofalu am ei draed. Cliciwch y botymau am fwy o wybodaeth.
Mynychu Asesiad Podiatreg Plant
Dylech sicrhau bod eich plentyn yn gwisgo pâr o siorts a chrys-t ar gyfer yr asesiad.
Dewch ag esgidiau arferol eich plentyn (ysgol a hamdden) gyda chi.
Dewch ag unrhyw fewnwadnau troed blaenorol a ddarparwyd i’ch plentyn.
Dewch ag esgidiau arferol eich plentyn (ysgol a hamdden) gyda chi.
Dewch ag unrhyw fewnwadnau troed blaenorol a ddarparwyd i’ch plentyn.
Efallai y byddai’n ddefnyddiol dod â hoff degan bach (nid consol gemau) y gellir ei sychu’n lân i helpu i wneud eich plentyn yn gartrefol.
RHAID i berson â chyfrifoldeb rhiant fynychu clinig gydag unrhyw blentyn.
Gall Podiatryddion dan Hyfforddiant fod yn bresennol yn ystod apwyntiad yn y clinig.

Hefyd yn yr adran hon
Dolenni defnyddiol
Gwybodaeth gyswllt
Canolfan Rheoli Cleifion Podiatreg,
Gwasanaethau Podiatreg,
Ysbyty Brenhinol Caerdydd,
Heol Casnewydd,
Caerdydd
CF24 0SZ
Ar gyfer pob ymholiad, ffoniwch 02920 335135 neu anfonwch neges e-bost at Podcav@wales.nhs.uk
Os oes gan eich plentyn broblem nad yw’n gwella fel y byddech chi’n disgwyl gyda hunanofal, dylech gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gallai hyn fod yn feddyg teulu, fferyllydd, Gwasanaeth Podiatreg y GIG neu Bodiatrydd Preifat.
Gwnewch yn siwr fod eich podiatrydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei (h)enw.