Mae traed rhai plant yn troi am i mewn pan fyddan nhw’n cerdded. Mae’n beth cyffredin iawn ymhlith plant ifanc. Mae’n un o’r ystumiau traed mwyaf arferol mewn plant.
Mae 3 phrif reswm pam mae rhai plant iach yn cerdded gyda’u traed yn troi i mewn:
Dyma’r achos mwyaf cyffredin o draed wedi’u troi i mewn ac mae’n gallu rhedeg mewn teuluoedd. Bydd asgwrn y glun (asgwrn y forddwyd) yn troi i mewn gan achosi i’r goes gyfan droi i mewn. Mae’n fwyaf amlwg mewn plant rhwng 2-4 oed ac fel arfer yn gwella cyn iddyn nhw gyrraedd 8-10 oed.
Mae hyn yn aml yn cael ei achosi ar ôl i faban fod mewn lle cyfyng yn y groth ac mae’n bosibl ei weld yn syth ar ôl y geni. Mae’n gwella dros amser fel arfer ond mewn achosion difrifol lle mae’r droed yn anystwyth ac yn anhyblyg, efallai y bydd angen esgidiau arbenigol, ymestyniadau neu weld arbenigwr.
Mae hyn yn digwydd pan fydd y pengliniau’n wynebu ymlaen ond asgwrn y grimog wedi’i ddirdroi, gan achosi i’r droed droi i mewn. Yn gyffredinol, mae’n gwella erbyn 4-5 oed.
Gwisgo esgidiau o ansawdd da sy’n ffitio’n iawn.
Mae’n bwysig bod plant yn chwarae a bod yn egnïol er mwyn i’w hesgyrn dyfu a datblygu sgiliau symud. Mae chwaraeon cyffredinol fel nofio yn llesol.
Gwneud gweithgareddau i gryfhau cyhyrau’r glun, fel cerdded gyda’r bysedd traed wedi’u troi am allan (fel pengwyn) ac ymarferion ymestyn llinyn y gar. Anogwch eich plentyn i beidio eistedd mewn siâp ‘W’, lle mae’r pen ôl, y pengliniau a’r traed yn cyffwrdd â’r ddaear a’r traed yn gorffwys y tu allan i’r pengliniau.
Os oes gan eich plentyn broblem nad yw’n gwella fel y byddech chi’n disgwyl gyda hunanofal, dylech gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gallai hyn fod yn feddyg teulu, fferyllydd, Gwasanaeth Podiatreg y GIG neu Bodiatrydd Preifat.
Gwnewch yn siwr fod eich podiatrydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei (h)enw.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.