Mae poenau tyfu yn gallu achosi i blant ddeffro o’u cwsg yn cwyno am boen yn eu coesau ac weithiau yn eu breichiau.
Mae’n gyffredin iawn ymhlith plant, yn enwedig plant o oedran ysgol gynradd.
Mae’r boen fel arfer yn wayw neu deimlad llosgi yn y coesau ac weithiau yn y breichiau. Fel arfer mae’r boen yn y cluniau, cyhyrau croth y goes, y grimog neu’r pengliniau.
Weithiau mae plant sy’n cael diagnosis o boenau tyfu yn dioddef o orsymudedd, cyhyrau tyn, ystum gwael neu arthritis.
Mae poenau tyfu yn boenus ond does dim angen i chi boeni amdanynt. Er hyn, gall poen yn y cymalau fod yn arwydd o gyflyrau eraill hefyd. Os oes gan eich plentyn boenau tyfu yn ogystal ag unrhyw un o’r canlynol, efallai y bydd angen ymchwiliad pellach:
Siaradwch â’ch meddyg teulu yn y lle cyntaf.
Os oes gan eich plentyn broblem nad yw’n gwella fel y byddech chi’n disgwyl gyda hunanofal, dylech gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gallai hyn fod yn feddyg teulu, fferyllydd, Gwasanaeth Podiatreg y GIG neu Bodiatrydd Preifat.
Gwnewch yn siwr fod eich podiatrydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei (h)enw.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.