Bodiau Cam
Mae Bodiau Cam yn gyflwr cyffredin sydd fel arfer yn bodoli o’r crud ond daw yn fwy amlwg yn ystod plentyndod. Mae’n tueddu i ddigwydd i drydydd, pedwerydd neu bumed bys y droed, ar y ddwy droed neu ddim ond un.
Gan fod y tendonau sy’n plygu’r bysedd traed yn rhy dynn, mae’n tynnu’r bys hwnnw o dan y bys nesaf gan achosi i’r bys gyrlio at wadn y droed.
Does neb yn siŵr ond mae’n bosibl bod Bodiau Cam yn cael ei basio o riant i blentyn.
Bysedd y traed yn cyrlio yw’r prif symptom. I’r rhan fwyaf o blant, nid yw hyn yn achosi unrhyw broblemau ond weithiau mae’n gallu achosi croen caled a phoen.
Mae Bodiau Cam yn normal o oedran ifanc iawn ac i lawer, bydd y bys yn sythu wrth i’r plentyn dyfu. Mae strapiau neu sythwyr bysedd traed (o’r enw ‘gwahanyddion bysedd traed’) yn gallu rhoi rhyddhad a gwella ychydig ar y cyflwr.
Os yw Bodiau Cam yn parhau i fod yn boenus, ewch i weld meddyg teulu sy’n gallu eich cyfeirio at bodiatrydd.

Hefyd yn yr adran hon
Os oes gan eich plentyn broblem nad yw’n gwella fel y byddech chi’n disgwyl gyda hunanofal, dylech gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gallai hyn fod yn feddyg teulu, fferyllydd, Gwasanaeth Podiatreg y GIG neu Bodiatrydd Preifat.
Gwnewch yn siwr fod eich podiatrydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei (h)enw.