Mae’n eithaf cyffredin i blant gwyno am boen pen-glin heb gael unrhyw fath o drawma neu anaf, yn enwedig pobl ifanc egnïol.
Y rheswm mwyaf cyffredin dros boen pen-glin mewn plant yw gorddefnyddio’r pen-glin.
Mae poen pen-glin mewn plant yn gallu bod yn ganlyniad llawer o ffactorau. Fel arfer, mewn pobl ifanc egnïol yn eu harddegau, mae’n digwydd oherwydd gorddefnyddio’r pen-glin, trawma neu gyflwr penodol.
Weithiau bydd symptomau’n dechrau oherwydd newid mewn lefelau gweithgarwch neu wneud mwy o chwaraeon.
Fel arfer, bydd poen pen-glin yn dechrau ar ôl oedi sylweddol.
Mae llawer o gyflyrau yn achosi poen pen-glin mewn plant, er enghraifft:
Mae’n bwysig trefnu asesiad gyda Ffisiotherapydd Pediatrig neu Bodiatrydd er mwyn canfod union achos poen pen-glin a dechrau’r driniaeth fwyaf addas.
Os oes gan eich plentyn broblem nad yw’n gwella fel y byddech chi’n disgwyl gyda hunanofal, dylech gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gallai hyn fod yn feddyg teulu, fferyllydd, Gwasanaeth Podiatreg y GIG neu Bodiatrydd Preifat.
Gwnewch yn siwr fod eich podiatrydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei (h)enw.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.