Beth yw diabetes Math 2?
Diabetes Math 2 yw pan nad yw eich pancreas yn cynhyrchu digon o inswlin neu os nad yw’r inswlin sy’n cael ei gynhyrchu yn gweithio’n iawn. Mae hyn yn gwneud i lefelau glwcos gwaed gynyddu i lefel sy’n gallu arwain at broblemau iechyd hirdymor.
Mae hunanreoli yn rhan hanfodol o ofal diabetes Math 2. Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu i ddysgu am eich diabetes a chymryd mwy o ran yn ei reoli. Drwy newid ffordd o fyw mae’n bosibl arafu dechreuad diabetes Math 2 a hyd yn oed ei atal.
Os ydych chi newydd gael diagnosis o Ddiabetes Math 2 neu wedi cael diagnosis ychydig flynyddoedd yn ôl, dyma bedwar fideo Ymwybyddiaeth Diabetes i’ch helpu i ddysgu sut i reoli’r cyflwr eich hun:
- Fideo 2: Cyflwyniad i garbohydradau
- Fideo 3: Defnyddio’r Canllaw Bwyta’n Iach i Ddiabetes
- Fideo 4: Hunanofal, monitro a rheoli
Fideo 1: Beth yw cynddiabetes neu ddiabetes Math 2?
Darllenwch fwy yma:
Fideo 2: Cyflwyniad i garbohydradau
Fideo 3: Defnyddio’r Canllaw Bwyta’n Iach i Ddiabetes
Fideo 4: Hunanofal, monitro a rheoli
Ar ôl gwylio’r ffilmiau uchod, os hoffech chi ragor o gymorth i’ch helpu i reoli diabetes, mae’r dewisiadau canlynol ar gael gan Ddeietegwyr yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, er mwyn eich helpu i reoli eich diabetes eich hunan:
Sesiwn ddwyawr wyneb yn wyneb Ymwybyddiaeth Diabetes
Dyma gymorth grŵp a fydd yn eich atgoffa o’r wybodaeth bwysig sydd yn y ffilmiau uchod am sut i reoli diabetes. Mae’n rhoi bras olwg o ‘Beth yw diabetes?’, rôl carbohydradau a rheoli glwcos gwaed, ac egwyddorion deiet iach a rheoli pwysau.
X-PERT Rhithwir
Dyma raglen addysg grŵp chwe wythnos lle mae gan bawb sy’n cymryd rhan ddiabetes Math 2. Mae’r sesiynau’n cael eu cyflwyno’n rhithwir ar hyn o bryd. Yn y sesiynau byddwch chi’n dysgu am y triniaethau diweddaraf a sut i reoli diabetes, a chael cyfle i drafod unrhyw broblemau neu faterion am ddiabetes.
Rydym yn gweithio gyda phobl ar bynciau fel bwyta’n iach a ryseitiau, cefnogi pobl i golli pwysau, bwyta i wella ar ôl salwch, gan gynnwys COVID 19 a Chanser, a rhoi gwybodaeth ac addysg am Ddiabetes a chyflyrau hirdymor eraill.
Gweler y tab Gwybodaeth Gysylltiedig ar ein tudalennau neu ewch i’r dudalen Cefnogi fy Adferiad ar gyfer yr holl gyflyrau meddygol rydym yn eu cwmpasu.
Cymorth hunanreoli Diabetes Digidol
MyDESMOND:
dyma raglen y gallwch chi ddefnyddio os na allwch chi fynd i grwpiau rhithwir neu wyneb yn wyneb, neu mae’n gallu helpu hunanreolaeth cyn, yn ystod, ac ar ôl mynd i sesiynau addysg grŵp fel X-PERT neu sesiwn Ymwybyddiaeth Diabetes.
Gall unrhyw un sydd â diabetes Math 2 gofrestru drwy lenwi’r ffurflen gais am fynediad ar wefan MyDesmond.
Cewch ragor o wybodaeth am MyDesmond ar wefan Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru
Adnoddau ychwanegol
Mae gan wefan Pocket Medic ffilmiau a gafodd eu creu gan Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol y GIG a phobl sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor i’ch helpu i ddeall a rheoli eich iechyd.
Mae gan wefan Diabetes UK ragor o wybodaeth am Ddiabetes Math 2.
Sut i fynychu un o’r rhaglenni diabetes wyneb yn wyneb neu rithwir?
Llenwch y ffurflen hunangyfeirio hon i fynychu unrhyw un o’r rhaglenni deietegwyr wyneb yn wyneb neu rithwir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Hefyd yn yr adran hon
Manylion cyswllt
Adran Deieteg Gymunedol
Canolfan Iechyd Glan yr Afon
Stryd Wellington
Caerdydd
E-bost: dietitians.cav@wales.nhs.uk
Ffon: 02920 907681