Gorbryder yw’r teimlad o bryder, ofn ac anesmwythyd cyffredinol. Gall hyn effeithio ar bawb ar ryw adeg yn ystod eu bywyd ond pan ddaw’r teimladau hyn yn amlach a hyd yn oed yn gyson – dyma pryd mae angen i chi geisio cymorth a chyngor.
Mae symptomau gorbryder yn amrywio’n fawr rhwng pobl ond gallant gynnwys:
- Anhwylderau Cwsg
- Problemau canolbwyntio
- Teimlo’n bigog neu’n ddagreuol
- Teimlo’ch calon yn curo’n gyflymach
- Teimlo’n sâl neu’n gyfoglyd
- Cur pen / Pen tost
Efallai y byddwch hefyd yn elwa o ganllawiau pellach ar sut i ddelio â phryder:
Gorbryder – A Self Help Guide (PDF)