Adsefydlu Gartref wedi Anaf i Fadruddyn y Cefn
Madruddyn y Cefn
Mae madruddyn (llinyn) y cefn yn fwndel trwchus o nerfau a meinweoedd sy’n ymestyn o waelod yr ymennydd i lawr hyd eich cefn. Mae’n cael ei warchod gan yr esgyrn sy’n ffurfio’r asgwrn cefn.
Madruddyn y cefn sy’n gyfrifol am gyfathrebu negeseuon dwy ffordd o’ch ymennydd i’ch organau, eich cyhyrau a’ch croen.
Amcangyfrifir bod tua 2,500 o bobl yn y DU yn anafu madruddyn y cefn bob blwyddyn.

Anafiadau i Fadruddyn y Cefn
Pan fydd madruddyn y cefn wedi’i niweidio neu ei anafu, mae’n bosibl y bydd rhai o’r negeseuon neu’r ysgogiadau yn cael eu colli, sy’n gallu achosi colli teimlad neu symudiad yn rhannol neu’n llwyr mewn rhannau o’r corff.
Fel arfer, bydd colli symudiad a theimlad yn digwydd o dan lefel yr anaf, er enghraifft bydd anaf i fadruddyn y cefn yn y gwddf yn achosi parlys i ran fwy o’r corff nag anaf i fadruddyn y cefn yng ngwaelod eich cefn. Gall rhai pobl brofi tetraplegia (sy’n effeithio ar y pedwar aelod) neu baraplegia (sy’n effeithio ar aelodau is y corff).

Pan fyddwch yn cael diagnosis o anaf i fadruddyn y cefn, cyfeirir at eich anaf fel un cyflawn (sy’n golygu bod madruddyn yr asgwrn cefn wedi’i niweidio’n llwyr, felly does dim rheolaeth modur na synhwyraidd o dan lefel yr anaf) neu’n anghyflawn (sy’n golygu bod rhai newidiadau modur a synhwyraidd o dan lefel yr anaf ac efallai y bydd mwy o botensial i’w wella).
Yn ogystal â’r effaith gorfforol, mae natur anaf i fadruddyn y cefn yn golygu bod effeithiau emosiynol a seicolegol ar yr un sydd wedi’i anafu, a’u teulu hefyd.
Yn dilyn anaf i fadruddyn y cefn a chyfnod o asesu neu adsefydlu yn yr ysbyty, byddwch yn dychwelyd adref a bydd gennych fwy o gwestiynau am adferiad ac adsefydlu.
Mae adferiad yn ymwneud â mwy na gwella galluoedd corfforol. Mae adnoddau i wella lles ar ôl anaf sy’n newid bywyd yr un mor werthfawr yn ogystal â chefnogaeth ynghylch rheoli blinder.
Ar y dudalen hon rydym yn ceisio darparu rhywfaint o arweiniad a deunyddiau i gefnogi eich adsefydlu gartref.
Dyfeisiau cynorthwyol
Mae offer arbenigol ac offer fel cadeiriau cawod, teclynnau a chymhorthion bwyta yn gallu helpu i wneud gweithgareddau’n fwy diogel a chynyddu eich annibyniaeth. Yn aml, mae’r offer hyn yn cael eu galw’n ddyfeisiau cynorthwyol neu dechnoleg gynorthwyol.- Mae’r fideo hwn gan Ysbyty Adsefydlu Dyffryn San Joaquin yn dangos dyfeisiau cynorthwyol gan gynnwys cwff cyffredinol i gefnogi bwyta.
- Mae’r fideo yma gan EquipMeOT yn dangos ffyrdd gwahanol o ddefnyddio codwyr coesau
Ymarfer Corff
-
- Mae’r fideo yma gan Ganolfan y Bugail yn dangos Ymarferion Cartref ar gyfer Anafiadau i Fadruddyn y Cefn: Symudiadau gwaelod y corff gan ddefnyddio codwr coesau.
Dyma rai awgrymiadau am weithgareddau chwaraeon a hamdden i bobl mewn cadeiriau olwyn:
Os yw eich anaf i fadruddyn y cefn yn effeithio ar eich breichiau, mae’n bwysig parhau i weithio ar gryfder ac ystod o symudiadau ar ôl i chi gael eich rhyddhau o’r ysbyty.
Os oes gennych anghenion sblintio parhaus, bydd clinigwr wedi rhoi cyngor i chi ar ba sblintiau i’w defnyddio ac am faint o amser.
Os ydych chi’n cael trafferth symud eich bysedd ar eich pen eich hun ac yn dibynnu ar eich arddwrn i gael gafael ar bethau, efallai y bydd yr adnodd isod yn ddefnyddiol.
Mae’r Rhaglen Atodol Ailadroddol Graddedig y Fraich yn rhaglen raddedig gyda thair lefel y gallwch symud ymlaen drwyddynt wrth i’ch breichiau a’ch dwylo wella o ran cryfder ac ystod symudiad. Dydy pob ymarfer ddim yn addas i bawb sy’n cymryd rhan a dylid eu defnyddio’n ofalus. Ond mae’r symudiadau graddedig ailadroddus y maen nhw’n eu hannog yn werthfawr yn y broses adsefydlu anaf i’r asgwrn cefn.
Mae technoleg gynorthwyol yn bwysig iawn i gleifion sy’n ei chael hi’n anodd defnyddio dyfeisiau fel switshis golau, setiau teledu, ffonau, cyfrifiaduron a thabledi. Mae’r Gwasanaeth Technoleg Cynorthwyol Electronig Cenedlaethol yn darparu offer sy’n datrys yr anawsterau hyn.
Mae Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn asesu ac yn darparu cadeiriau olwyn am gyfnodau hir.
Mae elusennau, gan gynnwys Back Up, yn cynnal cyrsiau sgiliau cadair olwyn lle gallwch chi ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i fywyd bob dydd, er enghraifft gwthio unllaw.
- Fideo ar wthio unllaw gan Back Up
Mae’n bwysig i gleifion fonitro’r croen yn gyson am eu bod nhw’n treulio llawer o amser yn eistedd. Cysylltwch â’ch meddyg teulu os oes gennych unrhyw broblemau gyda’ch croen neu’n amau bod briw gwasgu yn datblygu.
Os nad yw eich cartref yn addas i’ch anghenion cysylltwch â’ch gwasanaethau cymdeithasol lleol er mwyn trefnu asesiad therapi galwedigaethol cymunedol.
- Cliciwch yma am fanylion cyswllt yng Nghyngor Caerdydd
- Cliciwch yma am fanylion cyswllt yng Nghyngor Bro Morgannwg
Efallai y byddwch chi’n elwa o gael eich cyfeirio at Wasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru.
Fideo gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol ar Astudiaeth Achos Asesu Gyrru: Stori Stephen
Os ydych chi angen gwybodaeth ychwanegol am waith a phensiynau, cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau naill ai’n uniongyrchol neu drwy elusen anafiadau i’r asgwrn cefn.
Mae Prosiect Down to Earth yn awyddus i gael cefnogaeth barhaus a chyswllt gyda chleifion sydd ag anafiadau i’r asgwrn cefn. Efallai y bydd cleifion eisiau dychwelyd a gwirfoddoli neu weithio ar y prosiect hwn a defnyddio eu profiad i gefnogi eraill drwy eu taith adsefydlu.
Mae nifer o elusennau ar gael ar gyfer pobl sydd wedi cael anaf i fadruddyn y cefn.
Back Up Trust
Dyma elusen yn y DU sy’n rhoi cymorth i bobl sydd ag anaf i fadruddyn y cefn.
Dyma enghreifftiau o gefnogaeth y mae Back Up yn gallu ei rhoi:
- cefnogaeth gyffredinol drwy linellau ffôn neu “Back Up Lounge” rhithwir
- mentora i unigolion a theuluoedd
- sgiliau cadair olwyn
- cymorth trwy ap a sianel You Tube
- cyngor am waith, plant a phobl ifanc
- cyrsiau ar gyngor gwaith, sgiliau dinas, cerddwyr anghyflawn
- teithiau preswyl i archwilio gweithgareddau awyr agored.
Ewch i wefan Back Up Trust i gael mwy o wybodaeth
SIA (Spinal Injuries Association)
Mae’r sefydliad hwn yn darparu cefnogaeth i gleifion a gweithwyr proffesiynol, eiriolaeth ac arweiniad ar ystod o faterion sy’n gallu bod yn ddryslyd. Mae’n darparu adnodd dysgu gyda nifer o daflenni ffeithiau a chyrsiau hyfforddi. Mae gwirfoddolwyr a staff ar gael i siarad â’r rhai sydd newydd gael eu hanafu, a’u teuluoedd, am yr anaf i fadruddyn y cefn.
Ewch i wefan SIA am fwy o wybodaeth
Aspire
Mae Aspire yn darparu cymorth a chyngor am y pynciau canlynol yn bennaf:
- tai
- byw’n annibynnol
- buddion lles
- mynediad at dechnoleg
- cefnogi eich digwyddiadau codi arian eich hun gyda Your Fund.
Yng Nghymru mae ymgynghorydd byw annibynnol cefnogol iawn wedi’i leoli yng Nghaerdydd.
Ewch i wefan Aspire am fwy o wybodaeth
Regain
Elusen arbenigol fechan yw Regain sy’n cefnogi pobl sydd â thetraplegia o ganlyniad i ddamwain chwaraeon drwy gynnig grantiau. Mae’n werth cysylltu â Regain os yw hyn yn berthnasol i chi. Ymhlith pethau eraill, maen nhw’n cynnal teithiau beicio codi arian llwyddiannus iawn ar gyfer seiclwyr tetraplegig a beicwyr abl.