Ymarferion i’r arddwrn ar ôl anafu madruddyn y cefn
Mae’r ymarferion tenodesis hyn wedi’u hanelu at bobl sydd ag anaf C6 i fadruddyn y cefn, sef y rhai sydd â rhywfaint o symudiad llaw a braich. Mae’n caniatáu i bobl sydd heb symudiad bysedd gweithredol afael mewn gwrthrychau a’u rhyddhau gan ddefnyddio’r arddwrn.

Gafael Tenodesis
“Ystyr Gafael Tenodesis yw’r duedd naturiol i’ch bysedd gau pan fyddwch chi’n codi’ch arddwrn.
Er mwyn eich helpu i gyflawni’r afael hon, bydd eich Therapydd Galwedigaethol yn cynnig sesiynau therapi llaw gydag:
- ymarferion goddefol arddwrn a llaw
- ymarferion ymestyn arddwrn gweithredol
- sblintio dwylo – sblintiau menig bocsio neu sblintiau gorffwys tenodesis
- rhaglen raddedig o ailhyfforddi gafael gan ddefnyddio gwrthrychau o faint, cyrhaeddiad a gweithgareddau gwahanol
- gemau adferol.
Ymarfer Gafael Tenodesis
Dechreuwch gyda’ch braich wrth eich ochr a phlygu eich penelin i 90 gradd neu ongl sgwâr. Cadwch eich llaw mewn safle hamddenol gyda chledr eich llaw yn wynebu i lawr.

Plygwch eich arddwrn i fyny tuag at y nenfwd wrth blygu’ch bysedd tuag at gledr eich llaw i wneud dwrn.

Plygwch eich arddwrn i lawr tuag at y llawr cyn belled ag y gallwch chi gan sythu’ch bysedd yn ysgafn.
