Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Tai Chi

Mae llawer o ymarferwyr iechyd ledled y byd wedi cydnabod Manteision Iechyd ymarferion Tai Chi a Qigong. 

Mae Qigong wedi cael ei ymarfer yn Tsieina yn ei ffurfiau amrywiol ers miloedd o flynyddoedd. 

Lady surrounded by health and wellbeing related icons

Mae gan Tai Chi fuddion iechyd waeth beth fo’ch oedran neu’ch lefelau ffitrwydd.

Mae’r manteision iechyd mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • lleihau straen
  • colli pwysau
  • ymlacio’r corff a’r meddwl
  • ystum cywir
  • gwell cwsg
  • cadw’n heini
  • gwella cydsymudiad
  • atal cwympiadau
  • hyrwyddo hunan-iacháu
  • ail-gydbwyso’r corff
  • gostwng pwysedd gwaed a colesterol,
  • a gwella poen cyhyrysgerbydol.

Mae llawer o ganlyniadau cadarnhaol yn cael eu hadrodd gan bobl sy’n gwneud ymarferion Tai Chi a Qigong Iechyd Tsieineaidd yn rheolaidd.

Mae’n cynnwys ymarferion sy’n cynnwys arferion anadlu a/neu symudiadau penodol, gyda’r nod o wella a chydbwyso Qi.

Gweler y fideos canlynol am rai enghreifftiau o ymarferion Tai Chi a Qigong:

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content