Y pen-glin yw’r cymal mwyaf yn eich corff.
Mae’n cynnwys esgyrn, gewynnau, cartilag, a thendonau. Mae’r pen-glin yn plygu ac yn sythu ac mae ganddo ychydig o gylchdro i ganiatáu gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Y rhan fwyaf o’r amser mae esboniad syml iawn am boen pen-glin.
Os ydych wedi’i gor-wneud hi wrth wneud ymarfer corff, mae poen fel arfer yn cael ei achosi gan feinweoedd meddal, fel arwynebau’r cymalau neu’r tendonau, sydd wedi’u straenio neu lidus, ac mae’n aml yn clirio o fewn ychydig ddyddiau i wythnosau.
Wrth i chi fynd yn hŷn, gall poen yn eich pen-glin waethygu bob hyn a hyn, yn aml heb reswm.
Os ydych wedi cael llawdriniaeth amnewid pen-glin rhannol neu ben-lin newydd o’r blaen ac wedi datblygu poen pen-glin newydd neu anarferol sawl blwyddyn ar ôl cael y llawdriniaeth, trefnwch apwyntiad i drafod hyn gyda’ch meddyg teulu.
Os ydych wedi cwympo a/neu wedi ysigo neu droi eich pen-glin a’i fod yn mynd yn chwyddedig ar unwaith, mae eich pen-glin wedi cloi (nid ydych yn gallu ei symud o gwbl am ei fod yn sownd) ac rydych yn ei chael yn anodd rhoi pwysau ar eich coes efallai y bydd angen i chi weld Meddyg.
Dylech ffonio 111 ar frys i drefnu slot apwyntiad yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys, gan fod posibilrwydd bach o anaf i asgwrn neu ewyn.
Mae cadw’n heini yn rhan hanfodol o’ch triniaeth a’ch adferiad a dyma’r peth gorau y gallwch ei wneud ar gyfer eich iechyd.
Argymhellir eich bod yn aros yn y gwaith neu’n dychwelyd i’r gwaith cyn gynted â phosibl yn ystod eich adferiad. Nid oes angen i chi fod yn rhydd o boen a symptomau i ddychwelyd i’r gwaith.
Os ydych chi’n teimlo poen sylweddol yn ystod y fideo, rhowch y gorau i’r fideo a gofynnwch am gyngor gan eich meddyg teulu.
Gweler y fideo canlynol os ydych yn cael rhai problemau gyda’ch pen-glin:
Efallai y bydd rhaglen pen-glin Escape Pain yn eich helpu i reoli cyflwr eich pen-glin.
Cliciwch i gael gwybod mwy amdani ac i hunanatgyfeirio at y rhaglen.
Sut i baratoi ar gyfer Llawdriniaeth am ragor o wybodaeth.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.