Mae twnnel carpal yn strwythur yn eich arddwrn. Mae llawer o dendonau a nerfau’n mynd drwy’r twnnel hwn. Mae nerf o’r enw’r nerf canol yn y twnnel hwn ynghyd â’r tendonau.
Mae’r nerf hon yn rhoi teimlad i chi yn y bawd a’r bysedd, ac mae hefyd yn gwneud i’r tendonau weithio’n iawn.
Dydyn ni ddim yn gwybod pam fod twnnel carpal yn digwydd. Gall unrhyw beth sy’n lleihau’r gofod yn y twnnel carpal ac o’i amgylch, neu’n cynyddu’r pwysau oddi mewn iddo, achosi symptomau.
Gall gweithgareddau ailadroddus gan ddefnyddio’r llaw a’r arddwrn, gordewdra a beichiogrwydd gynyddu eich siawns o gael twnnel carpal.
Efallai y byddwch yn teimlo un neu fwy o’r symptomau canlynol:
Mae symptomau twnnel carpal yn diflannu mewn rhai pobl. Bydd eraill efallai’n cael adegau da a drwg dros flynyddoedd lawer, a bydd gan rai pobl symptomau nad ydyn nhw’n newid neu symptomau sy’n gwaethygu.
Efallai y bydd gennych symptomau sy’n gwaethygu sydd angen triniaeth bellach. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw un o’r isod, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu neu Ffisiotherapydd;
Os yw eich symptomau’n gwaethygu neu os nad ydych yn gwella ar ôl 3 mis o ddilyn ein cyngor, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu (am atgyfeiriad i’r Adran Therapi’r Dwylo) neu Therapydd Dwylo/Ffisiotherapydd sy’n gallu eich cyfeirio at arbenigwr.
Os yw eich symptomau’n gwaethygu neu ddim yn gwella bydd eich Meddyg Teulu neu’ch Therapydd Dwylo/Ffisiotherapydd yn trafod eich opsiynau gyda chi. Mae’r opsiynau hyn yn cynnwys: pigiadau a llawfeddygaeth dadwasgu’r twnnel carpal . Bydd eich Meddyg Teulu neu’ch Therapydd Dwylo/Ffisiotherapydd yn gallu eich cyfeirio at Lawfeddyg Dwylo Arbenigol.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.