Therapi Llaw
Mae’r Gwasanaeth Therapi Llaw yn cael ei redeg gan Therapyddion Galwedigaethol arbenigol a Ffisiotherapydd sy’n gweithio ochr yn ochr â’r pedwar Llawfeddyg Llaw Ymgynghorol.
Mae gennym ddau safle therapi wedi’u lleoli yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd ac Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Mae ein tîm Therapi Llaw yn cynnwys therapyddion sydd wedi cael hyfforddiant ôl-raddedig gan gynnwys cyrsiau achrededig Cymdeithas Therapyddion Llaw Prydain. Maen nhw’n arbenigo mewn asesu a thrin cyflyrau llaw ac anafiadau. Mae rhai o’n therapyddion hefyd wedi’u hyfforddi mewn sgiliau ymarfer clinigol uwch fel therapi chwistrellu.
Ein rôl ni yw darparu asesiadau arbenigol, triniaeth, addysg, gwneud sblintiau ac adsefydlu ein cleifion drwy lawdriniaeth neu anaf i ddychwelyd i’r gwaith a hamdden yn ogystal â gweithgareddau bywyd bob dydd.
Mae’r tîm therapi yn gweithio ochr yn ochr â llawfeddygon, yn cynllunio a gweithredu gofal er mwyn sicrhau bod cleifion yn gwella cystal â bo modd ar ôl llawdriniaeth. Yn aml iawn, mae cleifion yn cael eu rhyddhau’n gynnar o glinigau Ymgynghorol i ofal therapydd a fydd wedyn yn cyfeirio eu triniaeth barhaus.
Dwi angen help gyda...
Atgyfeirio
Os ydych chi angen asesiad ffurfiol, gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu er mwyn cael eich cyfeirio at y gwasanaeth Therapi Llaw.